Nassau, Bahamas
Oddi ar Wicipedia
Nassau yw prifddinas a dinas fwyaf y Bahamas. Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 260,000, bron 80% o holl boblogaeth y Bagamas, 330,000.
Saif y ddinas ar ynys New Providence. Enw gwreiddiol Nassau oedd Charles Town. Fe'i llosgwyd gan y Sbaenwyr yn 1684, ond fe'i hail-adeiladwyd, a'i hail-enwi yn Nassau er anrhydedd i Wiliam III, brenin Lloegr, oedd o frenhinllin Orange-Nassau. Erbyn 1713, roedd yn gyrchfan boblogaidd i fôrladron.