Naiad (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Naiad, gan John William Waterhouse, 1893. Mae'r Naiad Melite yn agoshau at Herakles, sy'n cysgu.

Y Naiad (Ναϊάδες o'r Groeg νάειν, "llifo," a νἃμα, "dŵr rhedegog") oedd nymph , neu dduwes a oedd yn byw yn y dŵr, mewn afonydd, nentydd a ffynhonnau yng Ngroeg yr Henfyd. Roedd llawer ohonynt ac adnabyddir enwau rhai, megis yr Oceanidau a'r Nereidau.