Mynyddoedd Chiricahua

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ym Mynyddoedd Chiricahua
Gweler hefyd Chiricahua (gwahaniaethu).

Cadwyn o fynyddoedd yn ne-ddwyrain Arizona, am y ffin â New Mexico, UDA, sy'n rhan o Fforest Genedlaethol Coronado yw'r Mynyddoedd Chiricahua neu Mynyddoedd y Chiricahua. Y gopa uchaf yw Copa Chiricahua, sy'n 9759 troedfedd uwch lefel y môr [1].

Roedd y mynyddoedd hyn yn gartref i'r Apache Chiricahua, yn cynnwys Cochise a Geronimo. Dyma gadarnle mwyaf y bobl honno, a fu - gyda'r Sierra Madre dros y ffin i'r de ym Mexico - yn ganolbwynt eu gwrthsafiad hir yn erbyn llwyodraeth yr Unol Daleithiau yn y Rhyfeloedd Apache.

Mae erydiad wedi creu cyfresi cymhleth o gribau mynyddig, yn dyrrau a cholofnau carreg trawiadol sy'n codi o'r fforest islaw. Diogelir y tirwedd arbennig yma mewn parc cenedlaethol.

Mae Bwlch Apache yn gorwedd rhwng Mynyddoedd Chiricahua a Mynyddoedd Dos Cabezas.

Dolenni allanol [golygu]