Monte Titano
Oddi ar Wicipedia
Copa uchaf San Marino yw Monte Titano, sy'n rhan o gadwyn yr Apenninau. Ei uchder yw 749 m ac fe'i lleolir yn union i'r dwyrain o Ddinas San Marino.
Yn ôl y chwedl, sefydlodd Sant Marinus San Marino ar lethrau'r mynydd calchfaen hwn. Ceir tri chopa ar y mynydd lle ceir Tri Thŵr San Marino.