Monsanto

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cwmni rhyngwladol Americanaidd yw Monsanto, sy'n arbenigo ym maes biotechnoleg amaethyddol. Hon yw prif gynhyrchwr chwynladdwyr glyphosate y byd, sy'n marchnadu ei gynnyrch odan y brand "Roundup". Monsanto hefyd yw prif gynhyrchwr had sydd wedi cael ei beiriannu'n genetig, maen't yn dal 70%–100% o'r farchnad ar gyfer cnydau masnachol. Mae'r cwmni Agracetus, sy'n is-gwmni i Monsanto, yn cynhyrchu had ffa soia Roundup Ready ar gyfer y farchnad masnachol. Ym mis Mawrht 2005, prynodd y cwmni Seminis Inc, gan ei dri'n gwmni had confensiynol mwyaf y byd. Maen't yn cyflogi drost 18,800 o bobl yn fyd-eang, ac roedd ganddynt gyllid blynyddol o USD$8.563 biliwn yn 2007.[1]

Mae datblygiad Monsanto o had sydd wedi ei beiriannu'n genetig a hormon twf gwartheg, yn ogystal a'i ymarferion ymosodol o ymgyfreithio a lobïo gwleidyddol, wedi gwneud y cwmni'n ddadleuol yn fyd eang ac yn darged ar gyfer ymgyrchwyr y symudiad gwrth-globaleiddio ac ymgyrchwyr amgylcheddol, ond mae technoleg had Roundup Ready wedi galluogi ffermyr i dyfu cnydau heb orfod trin y tir, mae Cotwm Bollgard wedi lleihau defnydd chwynladdwyr ar gaeau cotwm o tua 80%.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Google Finance: Monsanto Company