Metro Moscow
Rhwydwaith rheilffordd danddaear dinas Moscow, Rwsia, yw Metro Moscow (Rwseg: Московское метро). Mae'r rhwydwaith, sy'n ail yn y byd o ran nifer ei theithwyr, yn cysylltu bron bob rhan o'r brifddinas. Wedi ei agor yn 1935, mae'n adnabyddus am gynllun marweddog nifer o'i orsafoedd trena, sy'n cynnwys enghreifftiau ardderchog o gelf realaidd sosialaidd.
Mae gan Metro Moscow gyfanswm o 298.2 km (181.6 milltir) o lwybrau, 12 llinell a 180 gorsaf; ar ddiwrnod normal mae'n cludo 7 miliwn o deithwyr. Mae'n cael ei redeg fel menter wladol gan gwmni Moskovsky metropoliten (Московский метрополитен).
Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym Mehefin 1931 ac agorwyd y llinellau cyntaf yn 1935. Bu cynlluniau i gael rheilffordd danddaear ym Moscow ers y 19eg ganrif, ond bu rhaid eu gohirio oherwydd y sefyllfa gwladol. Bwriad Stalin wrth ei greu oedd cael ffenestr siop i'r byd gael gweld rhagoriaethau'r system Sofietaidd, gyda'r gorsafoedd gorwych yn fath o balasau i'r werin bobl eu mwynhau.
Leiniau'r Metro [golygu]
| Enw | Rhif a lliw |
Enw Cyrilig | Agorwyd | Ychwanegiad diweddaraf |
Hyd | Gorsafoedd |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Sokolnicheskaya | 1 | Сокольническая | 1935 | 1990 | 26.2 km | 19 |
| Zamoskvoretskaya | 2 | Замоскворецкая | 1938 | 1985 | 36.9 km | 20 |
| Arbatsko-Pokrovskaya | 3 | Арбатско-Покровская | 1938 | 2008 | 37.7 km | 17 |
| Filyovskaya | 4 | Филёвская | 1958 1 | 2006 | 14.7 km | 13 |
| Koltsevaya | 5 | Кольцевая | 1950 | 1954 | 19.4 km | 12 |
| Kaluzhsko-Rizhskaya | 6 | Калужско-Рижская | 1958 | 1990 | 37.6 km | 24 |
| Tagansko-Krasnopresnenskaya | 7 | Таганско-Краснопресненская | 1966 | 1975 | 35.9 km | 19 |
| Kalininskaya | 8 | Калининская | 1979 | 1986 | 13.1 km | 7 |
| Serpukhovsko-Timiryazevskaya | 9 | Серпуховско-Тимирязевская | 1983 | 2002 | 41.5 km | 25 |
| Lyublinskaya | 10 | Люблинская | 1995 | 2007 | 21.2 km | 12 |
| Kakhovskaya | 11 | Каховская | 1995 2 | 1969 | 3.4 km | 3 |
| Butovskaya | L1 | Бутовская | 2003 | 2003 | 5.5 km | 5 |
| Cyfanswm: | 292.2 km | 176 | ||||
Gweler hefyd [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Rwseg) (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Rwseg) Metro.ru — Gwybodaeth, hanes, mapiau, celf
- (Rwseg) MetroWalks Moscow Lluniau o bob gorsaf ar y metro