Menter Dinefwr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Menter Iaith Sir Dinefwr)

Mae Menter Dinefwr yn un o 22 o Fentrau Iaith yng Nghymru ac yn un o dair Fenter Iaith yn Sir Gâr.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Menter Bro Dinefwr ar Hydref y 1af 1999 er mwyn ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn ardal Dyffryn Tywi, Dwyrain Sir Gaerfyrddin. Ar 1 Ebrill 2007, unodd Menter Bro Dinefwr â Menter Dyffryn Aman i greu Menter sy’n gweithio ar draws y ddwy ardal. Mae’n un o dair Menter iaith yn Sir Gaerfyrddin ac yn perthyn i bartneriaeth Mentrau Sir Gâr. Yn 2019 fe ail frandio'r Fenter ac mae yn nawr yn cael ei hadnabod fel Menter Dinefwr.

Nod[golygu | golygu cod]

Nod Menter Dinefwr yw cefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg a chyfrannu at adfywiad cymunedol ac economaidd i greu cymunedau cynaliadwy, naturiol ddwyieithog a llewyrchus.

Wrth i’r gwaith gynyddu a’r gwasanaethau ehangu, mae’r Fenter wedi sefydlu tri chwmni cysylltiol arall sef;

  • Trywydd sy’n darparu gwasanaethau iaith broffesiynol, yn cynnwys cyfieithu a chynllunio iaith
  • Cyfoes, sef siop a chanolbwynt Cymraeg yn Rhydaman
  • Gofal Plant Cyf sy’n darparu gwasanaeth gofal plant dyddiol ac yn ystod gwyliau’r Haf

=Dolenni allanol[golygu | golygu cod]