Marlen Haushofer

Oddi ar Wicipedia
Marlen Haushofer
GanwydMarie Helene Frauendorfer Edit this on Wikidata
11 Ebrill 1920 Edit this on Wikidata
Molln Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1970 Edit this on Wikidata
o canser yr esgyrn Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstria Awstria
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, awdur plant, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Arddullfeminist science fiction Edit this on Wikidata
Gwobr/auAustrian Promotional Prize for Literature Edit this on Wikidata

Awdures o Awstria oedd Marlen Haushofer (11 Ebrill 1920 - 21 Mawrth 1970) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur plant, sgriptiwr ac awdur ffuglen wyddonol. Ei gwaith pwysicaf, mae'n debyg, yw'r nofel Die Wand (1963) a gyhoeddwyd yn Saesneg dan y teitl The Wall.[1]

Ganed Marie Helene Frauendorfer yn Molln, Awstria Uchaf a bu farw yn Fienna o ganser yr esgyrn; fe'i claddwyd yn Taborfriedhof. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Fienna a Phrifysgol Graz.[2][3][4][5][6]

Bywgraffiad byr[golygu | golygu cod]

Mynychodd ysgol breswyl Babyddol yn Linz, ac aeth ymlaen i astudio llenyddiaeth Almaeneg yn Vienna ac yn Graz. Ar ôl ei blynyddoedd academaidd, ymsefydlodd yn Steyr. [7]

Ym 1941, priododd Manfred Haushofer, deintydd, a chawsant ddau fab, Christian a Manfred. Ysgarodd y ddau yn 1950, ac ailbriodi yn 1958.

Yr awdur[golygu | golygu cod]

Gan ennill gwobrau llenyddol mor gynnar â 1953, aeth Haushofer ati i gyhoeddi ei nofel gyntaf, Llond Llaw o Fywyd ym 1955. Yn 1956, enillodd Wobr Theodor-Körner am gyfraniadau a phrosiectau cynnar yn ymwneud â chelf a diwylliant. Yn 1958, cyhoeddwyd ei nofel Wir töten Stella ('Fe Laddwn Ni Stella).

Cafodd y Wall, a ystyrir ei gwaith gorau, ei gwblhau ym 1963. Ysgrifennwyd y nofel bedair gwaith mewn llaw-hir rhwng 1960 a 1963, ond bu'n rhaid aros tan 1968, ddwy flynedd cyn ei marwolaeth, i'w argraffu.

Dywedodd mewn llythyr:

Mae popeth yn feichus iawn gan nad oes gennyf lawer o amser byth, ac yn bennaf oherwydd nad ydw i am i'r gwaith fod yn embaras i mi. Rhaid imi holi'n barhaus a yw'r hyn a ddywedaf am anifeiliaid a phlanhigion mewn gwirionedd yn gywir. Ni ellir bod yn or-fanwl ac yn rhy-gywir. Byddwn yn hapus iawn, yn wir, pe bawn i'n gallu ysgrifennu'r nofel hanner cystal a'r hyn yr wyf yn ei ddychmygu yn fy meddwl.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Bedd Marlen Haushofer
  • A Handful of Life (1955)
  • We Murder Stella (1958, nofel fer)
  • The Wall (1963)
  • Terrible Faithfulness (1968, storiau byrion)
  • Die Mansarde (1969)
  • The Attic (1969)
  • Nowhere Ending Sky (1966)

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Austrian Promotional Prize for Literature (1953, 1968) .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Marlen Haushofer Gwefan[dolen marw]. Argraffiad cyntaf: Sigbert Mohn Verlag, Gütersloh, 1963; cyflwynwyd iddi Arthur-Schnitzler-Preis yn 1963 am y nofel hon. Cafwyd argraffiad newydd (a chyhoeddwr newydd) yn 1968.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12051947v. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_153. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  4. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12051947v. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12051947v. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen HAUSHOFER". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen HAUSHOFER". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer".
  6. Dyddiad marw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12051947v. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen HAUSHOFER". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen HAUSHOFER". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer". "Marlen Haushofer".
  7. Galwedigaeth: https://de.wikipedia.org/w/index.php?title=Liste_deutschsprachiger_Science-Fiction-Autorinnen&oldid=187264839. https://de.wikipedia.org/w/index.php?title=Liste_deutschsprachiger_Science-Fiction-Autorinnen&oldid=187264839.