Maqluba

Oddi ar Wicipedia
Maqluba
Mathbwyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pryd o fwyd traddodiadol o Irac,[1] Libanus,[2][3] Palestina,[4][5][6][7] Gwlad yr Iorddonen[8][9] a Syria[3][10] yw Maqluba neu Maqlooba a wasanaethir ar hyd a lled y Lefant. Mae'n saig sy'n cynnwys cig, reis a llysiau wedi'u ffrio wedi'u rhoi mewn pot sy'n cael ei fflipio wyneb i waered wrth ei weini, a dyna'r enw maqluba,[11] sy'n cyfieithu'n llythrennol fel "wyneb i waered." Mae'r dysgl yn mynd yn ôl ganrifoedd ac mae i'w chael yn y Kitab al-Tabikh, casgliad o ryseitiau o'r 13g.[12]

Cynhwysion[golygu | golygu cod]

Gall Maqluba gynnwys amrywiaeth o lysiau, fel tomatos wedi'u ffrio, tatws, blodfresych, a phlanhigyn ŵy, ynghyd â naill ai cyw iâr neu gig oen.[13] Y rhai mwyaf cyffredin yw blodfresych a phlanhigyn ŵy. Rhoddir yr holl gynhwysion yn y potyn yn ofalus, mewn haenau, fel bod y dysgl yn edrych fel cacen haenog pan fydd y pot wedi'i wrthdroi i'w weini.[4][11]

Maqluba yn dangos haenau

Yn nodweddiadol mae Maqluba wedi'i addurno â chnau pinwydd a phersli ffres wedi'i dorri'n fân.[14] Weithiau caiff ei wasanaethu gyda salad ac iogwrt ffres. Yn aml caiff ei baratoi a'i weini mewn gwleddoedd a neithiorau mawr ee priodasau neu achlysuron arbennig.

Ers yr ymgais coup aflwyddiannus yn Nhwrci, yn 2016, mae'r pryd yma'n cael ei hstyried yn "ddanteithfwyd Gulenaidd". Ystyrir y pryd felly'n dystiolaeth gref o aelodaeth o fudiad Gülen (neu Hizmet), mudiad sydd yn cael ei ystyried gan Dwrci yn fudiad terfysgaidd.[15]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Bwyd Arabaidd
  • Bwyd yr Aifft
  • Bwyd Gwlad yr Iorddonen
  • Rhestr o seigiau caserol
  • Macaroni Hamin
  • Coginio Palestina

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bidoun. "Cooking with Maha Alusi". Bidoun (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-01-04.
  2. Shaheen. "Maqluba--The Paella of Palestine". Arab America (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-20.
  3. 3.0 3.1 Behnke, Alison (2005). Cooking the Middle Eastern way. Ehramjian, Vartkes. Minneapolis: Lerner Publications Co. t. 50. ISBN 0-8225-3288-3. OCLC 59008909.CS1 maint: date and year (link)
  4. 4.0 4.1 Linda Gradstein (6 December 2015). "Eucalyptus offers food from the Bible". Jerusalem Post. Cyrchwyd 12 November 2018.
  5. Timothy L. Gall; Jeneen Hobby (2009). Worldmark Encyclopedia of Cultures and Daily Life. Gale. t. 782. ISBN 978-1-4144-4892-3. The most traditional Palestinian meals are maqluba, musakhan, and mansaf
  6. Ottolenghi, Yotam (2015). "Jerusalem on a Plate". Gastronomica: The Journal of Critical Food Studies (University of California Press) 15 (1): 3. doi:10.1525/gfc.2015.15.1.1. ISSN 1529-3262. "Maqluba, an upside-down rice and vegetable cake that is actually Palestinian"
  7. Elizabeth Carty (24 September 2012). Shrewd Food: A New Way of Shopping, Cooking and Eating. ISBN 9781444725780.
  8. Swift, Robert (2016-03-07). "Maqluba - Eating Upside Down". The Media Line (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-12-11.
  9. Benayoun, Mike. "Jordan: Makluba (Maqluba)". 196 Flavors.
  10. Joubin, Rebecca (2013). The politics of love : sexuality, gender, and marriage in Syrian television drama (“...recipe for the well-known Syrian rice dish “maqluba” (upside down)...”). Lanham: Lexington Books. t. 101. ISBN 978-0-7391-8429-5. OCLC 852830015.
  11. 11.0 11.1 Lam, Francis (5 January 2017). "A Middle Eastern Layer Cake for Dinner". Cyrchwyd 13 November 2018.
  12. Smith, Jen Rose (2018-01-02). "Beyond hummus: 10 foods you must try in Jordan". CNN Travel (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-01-02.
  13. "Cooks.com - Recipe - Maqluba (Cauliflower with rice)".
  14. "Maqlooba (Maqluba), Palestinian Upside Down Rice Recipe". LinsFood | by Azlin Bloor. 2013-07-21. Cyrchwyd 2018-12-04.
  15. Gauthier-Villars, David (2018-04-17). "U.S. Pastor Held in Turkey Denies Links to Terrorists". Wall Street Journal (yn Saesneg). ISSN 0099-9660. Cyrchwyd 2020-12-17.