Lydia Flood Jackson

Oddi ar Wicipedia
Lydia Flood Jackson
Ganwyd6 Mehefin 1862, 1862 Edit this on Wikidata
Oakland, Califfornia Edit this on Wikidata
Bu farw8 Gorffennaf 1963, 1963 Edit this on Wikidata
Oakland, Califfornia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethperson busnes, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
MamElizabeth Thorn Scott Flood Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Lydia Flood Jackson (6 Mehefin 1862 - 8 Gorffennaf 1963) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel person busnes ac fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.[1][2]

Fe'i ganed yn Brooklyn, California (heddiw: "Oakland") ar 6 Mehefin 1862 a bu farw yno hefyd.[3][4][5][6]

Cefndir y teulu[golygu | golygu cod]

Ei mam oedd Elizabeth Thorn Scott a'i thad oedd Isaac Flood; priododd y ddau yn 1855. Ganwyd Elizabeth Thorn Scott yn 1828 yn Efrog Newydd ac fe'i haddysgwyd yn New Bedford, Massachusetts.[1][7]

Yn y 1950au, gwaharddwyd plant Affro-Americanaidd rhag mynychu ysgolion cyhoeddus, felly cymerodd Scott ar ei phen ei hun i sefydlu ysgol gyntaf Sacramento ar gyfer plant du yn ei chartref ar 29 Mai 1854. Derbyniwyd yr ysgol i ardal ysgol Sacramento, ond heb gyllid a dim ond fel ysgol ar wahân i bobl du. Bu'n dysgu yma nes iddi briodi tad Flood, sef Isaac Flood. Ganed tad Flood Isaac Flood yn gaethwas yn Ne Carolina ym 1816. Prynodd ei ryddid a symud i'r gorllewin i Galiffornia yn ystod y Rhuthr Aur (Gold Rush) lle bu'n gweithio fel labrwr a masnachwr.[8][9][9][10]

Gwnaeth Isaac Flood ei ffortiwn yn prynnu a gwerthu eiddo a thir yn yr ardal ac roedd y ddau ohonynt yn eiriolwyr dros hawliau sifil ac addysg Affricanaidd America. Cynorthwyodd y ddau i godi Eglwys Esgobol Methodistaidd Affricanaidd Shiloh (AME) yn 1858. Yn 1857, cawsant fab o'r enw George Francis Flood sy'n cael ei ystyried yn "blentyn lliwg cyntaf" Oakland.[8][9][10] Yn yr un flwyddyn, sefydlodd Scott ysgol breifat arall o'u cartref yn 1334 Stryd y 15fed Dwyrain ar gyfer Americanwyr Affricanaidd a phlant nad oeddent yn wyn, gan gynnwys Lydia Flood.[2][8] Ymrwymodd Isaac Flood i hyrwyddo hawliau sifil i Americanwyr Affricanaidd ac roedd yn rhan o 'Symudiad Confensiwn Lliw California' i ymladd yn erbyn gwahanu plant oherwydd lliw eu croen, mewn ysgolion yng Nghaliffornia.[2][9]

Oherwydd ei eiriolaeth a'i benderfyniad, Lydia Flood oedd y myfyriwr Affro-Americanaidd cyntaf i fynychu Ysgol John Swett (integredig) yn 1872.[2][8] Parhaodd ei haddysg yn nosbarthiadau nos Ysgol Uwchradd Oakland - tan iddi gyrraedd Blwyddyn 6.[11] Yna, priododd William Jackson.[2][12]

Yr ymgyrchydd[golygu | golygu cod]

Parhaodd Lydia Flood Jackson gydag ymgyrch ei theulu i ymladd dros hawliau sifil Affro-Americaniaid ac roedd hefyd yn hyrwyddwr hawliau menywod. Roedd yn ferch a oedd yn gweithredu yn ogystal â dadlau dros ei chred. Ymgymrodd a nifer o swyddi fel cadeirydd cymdeithasau megis Ffederasiwn Clybiau Menywod Lliw Califfornia a bu'n aelod o Glwb Fppie Jackson Coppin am bedwar-deg-dwy flynydd a Chlwb y Merch Brodorol. [13]

Yn ei chyfarfod gyntaf o'r Ffederasiwn Clybiau Menywod Lliw Califfornia, galwodd am etholfraint (sef yr hawl i ferched bleidleisio). Talodd deyrnged hefyd i'r swffragetiaid a oedd wedi paratoi'r tir o'i blaen.

Roedd yn weithredwr gwleidyddol a theithiodd i nifer o wledydd, gan gynnwys Mecsico, De America ac India'r Gorllewin er mwyn hyrwyddo ei syniadau.

Busnes[golygu | golygu cod]

Llwyddodd i sefydlu busnes creu sebonau ac arogl da a chynnyrch eraill i ferched, dan y brand "Flood Toilet Creams" .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Lydia Flood Jackson funeral program | Oakland Public Library Digital Collections". oakland.access.preservica.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-14. Cyrchwyd 2019-04-12.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Wagner, Tricia (16 Gorffennaf 2007). "Lydia Flood Jackson (1862-1963)". BlackPast (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-04-12.
  3. Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
  4. Dyddiad geni: https://documents.alexanderstreet.com/d/1007600750. dyddiad cyrchiad: 9 Medi 2019.
  5. Dyddiad marw: https://documents.alexanderstreet.com/d/1007600750. dyddiad cyrchiad: 9 Medi 2019.
  6. Grwp ethnig: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
  7. Durham, David L (1998). California's geographic names: a gazetteer of historic and modern names of the state (yn English). Clovis, Calif.: Word Dancer Press. ISBN 9781884995149. OCLC 38389700.CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 Lazard, Dorothy (March 20, 2018). "Elizabeth Scott Flood: Early Oakland Educator | Oakland Public Library". www.oaklandlibrary.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-31. Cyrchwyd 2019-03-12.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 Gatewood, Jr, Willard B. (2000). Aristocrats of color : the Black elite, 1880-1920. Fayetteville: University of Arkansas Press. ISBN 9781610750257. OCLC 1003856507.
  10. 10.0 10.1 Heyliger, Sean (August 15, 2013). "Guide to the Flood Family Papers". Online Archive of California. Cyrchwyd 2019-03-13.
  11. "1940 United States Federal Census". www.ancestry.com. Cyrchwyd 2019-03-13.
  12. Camilleri, Angelina, Angelina Lopez, Stephen Martin and Marinela Tupa (2016). "Biographical Sketch of Lydia Flood Jackson". Alexander Street. Cyrchwyd 2019-04-12.
  13. Galwedigaeth: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.