Luke Helder

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bomiwr a chyn-fyfyriwr Prifysgol Wisconsin-Stout ydy Luke Helder (ganwyd 1981), sy'n enwog am ei sbri o fomio yng nghanol-orllewin UDA ym mis Mai 2002, gan dderbyn y llysenw The Midwest Pipe Bomber gan wasg y byd.

Gosododd ddeunaw bom peipen mewn blychau post ym mhum talaith, mewn lleoliadau a ffurfiodd siâp wyneb sy'n gwenu ar y map. Anafwyd chwe pherson pan ffrwydrodd y bomiau.

Penderfynwyd yn 2004 bod Helder yn analluog i wynebu treial, ond carcharir o hyd yng Nghanolfan Feddygol Ffederal Rochester, Minnesota.