Lucy Kirkwood

Oddi ar Wicipedia
Lucy Kirkwood
GanwydHydref 1983 Edit this on Wikidata
Leytonstone Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Mae Lucy Kirkwood FRSL (ganwyd 1984)[1] yn ddramodydd a sgriptwraig Prydeinig. Ar hyn o bryd, mae hi'n ddramodydd preswyl efo'r cwmni Clean Break. Ym mis Mehefin 2018 etholwyd Kirkwood yn gymrawd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol (Royal Society of Literature) fel rhan o'u menter "40 Dan 40".[2] Mae ei dramau yn cynnwys Tinderbox, NSFW, Chimerica, The Children a Mosquitoes.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganwyd a mawyd Kirkwood yn Leytonstone, dwyrain Llundain ac mae ganddi radd mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Caeredin. Yno roedd yn aelod o grŵp o actorion o'r enw 'the Improverts' a oedd yn arbenigo mewn sioeau byrfyfyr. Hefyd, bu'n sgwennu ar gyfer Cwmni Theatr Prifysgol Caeredin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Profile in the Independent, 27 October 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-23. Cyrchwyd 2018-11-29.
  2. Flood, Alison (2018-06-28). "Royal Society of Literature admits 40 new fellows to address historical biases". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-03.