Llongau Caernarfon (cân)

Oddi ar Wicipedia

Cân werin draddodiadol yw Llongau Caernarfon.

Rhan agoriadol y gân werin Llongau Caernarfon, yn cael ei chanu gan Hogia'r Wyddfa.

Mae'r gân hon y cael ei chanu gan fachgen ifanc o Gaernarfon ('Cnarfon; ar lafar).

Mae'n darlunio ei ddyheadau i gael mynd yn forwr, ryw ddiwrnod. Mae'r fachgen ifanc yn sefyll yn y cei gyda pherson arall gan ofyn iddi pam na chai fynd yn forwr.

Ysgrifennwyd y gân gan John Glyn Davies (1870 – 1953) a chanwyd hi gan lawer o unigolion a grwpiau. Recordiwyd y gân gan y band Sobin a'r Smaeliaid yn 2000 ar albwm 'A Rhaw'.

Geiriau[golygu | golygu cod]

Mae'r holl longau wrth y cei yn llwytho
Pam na chawn i fynd fel pawb i forio.
Dacw dair yn dechrau warpio
Ac am hwylio heno
Birkinhead, Bordo a Wiclo.'
Toc daw'r stemar bach i douio
Golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio.

Pedair llong wrth angor yn yr afon
Aros teit i fynd tan Gastell C'narfon
Dacw bedwar goleu melyn
A rhyw gwch ar gychwyn
Clywed swn y rhwyfau wedyn
Toc daw'r stemar bach i douo
Goleu coch ar waliau wrth fynd heibio.

Llongau'n hwylio draw a llongau'n calyn
Heddyw fory ac yfory wedyn
Mynd a'u llwyth o lechi gleision
Dan eu hwyliau gwynion
Rhai i Ffrainc a rhai i'r Werddon
O na chown i fynd ar f'union
Dros y môr a hwylion ôl i G'narfon.

Holaf ym mhob llong ar hyd yr harbwr
Oes 'na le i hogyn fynd yn llongwr
A chael spleinsio rhaff a rhiffio
A chael dysgu llywio
A chael mynd mewn cwch i sgwlio.
O na chawn i fynd yn llongwr
A'r holl longau'n llwytho yn yr harbwr.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Meinir Wyn Edwards, 100 o Ganeuon Gwerin (Y Lolfa, 2012), t.61
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato