Llaswyr

Oddi ar Wicipedia
Llaswyr Catholig

Llaswyr yw rhes o fwclis wedi'u rhaffu ynghyd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweddïo gan Gatholigion.

Mae llaswyrau tebyg yn cael eu defnyddio i'r un perwyl gan Fwslemiaid a Bwdyddion.

Ystyr gwreiddiol y gair Cymraeg Canol llaswyr oedd "Llyfr y Salmau; salm, emyn" (o'r gair sallwyr "Psalter" trwy drawsosodiad). Datblygodd yr ystyr "rosari" am fod Cristnogion yn arfer cyfrif gleiniau'r rosari wrth adrodd rhannau o'r Salmau neu weddïau. Ceir sawl cyfeiriad at y llaswyr fel rosari ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Er enghraifft gan Guto'r Glyn (tua 1445-1475):

Bodiaw y mae'r llaw mor llwyr
Rhof â'r llys, rhifo'r llaswyr.