Licris cymysg

Oddi ar Wicipedia
Liquorice Allsorts in a glass bowl.jpg
Licris cymysg mewn powlen wydr

Cymysgedd o felysfwyd licris yw licris cymysg (Saesneg: liquorice allsorts). Maent wedi'i gwneud o licris, siwgr, cnau coco, jeli anis, cyflasynnau ffrwythau, a gelatin. Cawsant eu cynhyrchu yn wreiddiol yn Sheffield, Lloegr, gan Geo. Bassett & Co Ltd. Mae mascot cwmni Bassett - 'Bertie Bassett' - yn gymeriad sydd wedi'i wneud o'r licris cymysg.

O ran eu tarddiad, dywedir i Charlie Thompson, un o weithwyr Bassett, yn 1899 ollwng hambwrdd o samplau oedd yn cael eu dangos i gleient yng Nghaerlŷr, a thrwy hynny gymysgu'r melysion. Cafodd y cleient ddifyrrwch wrth ei wylio'n sgrialu i'w hail-drefnu. Yn fuan wedi hynny, dechreuodd y cwmni fas-gynhyrchu'r cymysgedd, a'u troi yn gynnyrch poblogaidd.

Mae licris cymysg yn cael eu cynhyrchu gan nifer o gwmnïau o amgylch y byd, ond maen nhw fwyaf poblogaidd yng ngwledydd Ewrop. Yn yr Iseldiroedd, maen nhw'n cael eu galw'n Engelse drop, sy'n golygu licris Seisnig, ac Engelsk konfekt yw nhw yn Sgandinafia.