Lewis Haydn Lewis
Gwedd
Lewis Haydn Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1903 Aberaeron |
Bu farw | 1985 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Gweinidog ac awdur oedd Lewis Haydn Lewis (1903 – 1985). Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Aberaeron, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a Phrifysgol Rhydychen.
Fe'i ganwyd yn Aberaeron. Ordeiniwyd ef yn weinidog ym Mhontarfynach yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1930. Yn 1935 symudodd i Eglwys Jerusalem, Ton Pentre
Bardd
[golygu | golygu cod]Roedd yn fardd yn ogystal.
Enillodd y y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog 1961 am ei gerdd, Foadur
Enillodd goron hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri, 1968 ar y testun Meini.
Ysgrifennodd hanes y dref y ganwyd ef Penodau yn Hanes Aberaeron 1970.[1]
Teulu
[golygu | golygu cod]Roedd yn dad i Richard 'Dic' Lewis, cyfarwyddwr teledu ac i Carol, bu farw yn 1958, ac yn dad-cu i Siôn Lewis.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Cerddi Cyfnod (1963)
- Cerddi Argyfwng (1966)
- Penodau yn hanes Aberaeron (1970)
- Meini ac Olion (1970)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pymtheg o Wyr Llên yr Ugeinfed Canrif gan D. Ben Rees Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf.