Laviai Nielsen

Oddi ar Wicipedia
Laviai Nielsen
Ganwyd13 Mawrth 1996 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Connaught School for Girls Edit this on Wikidata
Galwedigaethcystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Athletwraig Prydeinig sy'n arbenigo yn y 400 metr yw Laviai Nielsen (ganwyd 13 Mawrth 1996 [1]). Enillodd sawl medal fel aelod o dimau ras gyfnewid 4x400 metr Prydain Fawr: medal arian ym Mhencampwriaethau’r Byd 2017 ym 4 x 400 metr y merched; medal arian Mhencampwriaethau’r Byd 2023 yn y 4 x 400 metr cymysg, a medal efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd 2023 yn y 4 x 400 metr i fenywod ym Mhencampwriaethau'r Byd 2023.[2]

Cafodd ei geni yn Leytonstone, Llundain, fel un o efeilliaid.[3]

Ym mis Awst 2022, datgelodd Laviai ei bod wedi cael diagnosis o sclerosis lluosog yn ystod haf 2021. Roedd ei hefaill, Lina, wedi datgelu ei bod yn dioddef o’r un cyflwr bythefnos ynghynt, ar ôl cael yr un diagnosis yn 2013.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Laviai NIELSEN – Athlete Profile". World Athletics. Cyrchwyd 2021-06-20.
  2. "Keely Hodgkinson claims 800m silver, Great Britain's men and women both win 4x400 metres bronze". Eurosport (yn Saesneg). 27 Awst 2023. Cyrchwyd 28 Awst 2023.
  3. Ben Bloom (25 Chwefror 2017). "Laviai and Lina Nielsen driven by twin dream of a medal on British debuts". The Daily Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Mawrth 2017.
  4. Euan, Crumley (16 Awst 2022). "Laviai Nielsen: "We want to be a beacon of hope"". Athletics Weekly (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Awst 2022.