Laon
Oddi ar Wicipedia
Dinas a chymuned yn Ffrainc yw Laon, sy'n brifddinas département Aisne. Fe'i lleolir i'r dwyrain o Baris. Mae'n ganolfan i'r arrondissement o'r un enw hefyd.
Mae Laon yn adnabyddus am ei heglwys gadeiriol, sef y Cathédrale Notre-Dame de Laon, a adeiladwyd rhwng y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif. Mae'n enghraifft nodiadol o bensaernïaeth arddull Gothig. Ceir sawl eglwys ac adeilad hanesyddol arall hefyd. Amgylchynir canol y dref gan fur canoloesol.