King Vidor

Oddi ar Wicipedia
King Vidor
Llun cyhoeddusrwydd o King Vidor ar gyfer stiwdio Metro-Goldwyn-Mayer (1925).
Ganwyd8 Chwefror 1894 Edit this on Wikidata
Galveston, Texas Edit this on Wikidata
Bu farw1 Tachwedd 1982 Edit this on Wikidata
o clefyd cardiofasgwlar Edit this on Wikidata
Paso Robles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Peacock Military Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, ysgrifennwr, undebwr llafur, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Big Parade, The Crowd, Hallelujah!, The Champ, Our Daily Bread, Stella Dallas, The Citadel, Northwest Passage, Duel in The Sun, Beyond The Forest, The Fountainhead, Ruby Gentry, Man Without a Star, War and Peace Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCalifornia Republican Party Edit this on Wikidata
PriodFlorence Vidor, Eleanor Boardman Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Anrhydeddus yr Academi, Golden Plate Award, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd oedd King Wallis Vidor (8 Chwefror 18941 Tachwedd 1982).[1]

Ganed ef yn Galveston, Texas, Unol Daleithiau America, i deulu o dras Hwngaraidd.

Cyfarwyddodd Vidor nifer o ffilmiau o fathau gwahanol, gan gynnwys The Big Parade (1925) am y Rhyfel Byd Cyntaf, y sioe gerdd Hallelujah (1929), The Champ (1931), stori am baffiwr alcoholig, addasiad o'r nofel Stella Dallas (1937) gan Olive Higgins Prouty, ac addasiad o'r nofel The Citadel (1938) gan A. J. Cronin.

Ymddeolodd o wneud ffilmiau ym 1959. Derbyniodd wobr er anrhydedd yn seremoni wobrwyo'r Academi ym 1979, i gydnabod ei yrfa hir ym myd y sinema. Bu farw King Vidor yn Paso Robles, Califfornia, yn 88 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) King Vidor. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2021.