Kim Jong-un
Oddi ar Wicipedia
Mae Kim Jong-un (ganwyd 1983 neu 1984) yn arweinydd unbenaethol Gogledd Corea. Gelwir ef hefyd yn Kim Jong-eun a Kim Jung-eun. Mae'n debyg iddo gael ei eni rywdro rhwng 1983 a 1984; mae'r union ddyddiad, fel llawer o ffeithiau yn cael ei gadw'n gyfrinach gan y wlad. Fo ydy trydydd mab Kim Jong-il.
Bu farw'i dad Kim Jong-il o drawiad calon yn 69 oed, ar 17 Rhagfyr 2011 ar ganol taith trên. Yn dilyn ei farwolaeth cyhoeddodd teledu Corea mai ei fab ieuengaf Kim Jong-un fyddai'r olynydd.