Kalevala

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Amddiffyn y Sampo", llun gan Akseli Gallen-Kallela

Cerdd hir yn yr iaith Ffinneg ac arwrgerdd genedlaethol y Ffindir yw'r Kalevala. Ei ffurf fwyaf cyfarwydd yw'r fersiwn a luniwyd gan yr ieithydd a hynafiaethydd Elias Lönnrot (1802 - 1884) rhwng 1835 a 1849. Mae'r fersiwn honno'n seiliedig ar waith ymchwil Lönrot yn casglu ceinciau o'r Kalevala oddi ar dafod leferydd yng nghefn-gwlad y Ffindir ac ar ddarnau o'r epig a gyhoeddwyd eisoes o'r 17eg ganrif ymlaen.

Cefndir hanesyddol y Kalevala yw'r berthynas rhwng pobl Kaleva a'u cymdogion y Pohjola (y Lapiaid efallai). Yn ganolog i'r epig y mae'r ymchwil am y Sampo talismanaidd. Dim ond ar ddiwedd y gerdd y ceir cyfeiriadau at Gristnogaeth, na ddaeth yn grefydd swyddogol yn y Ffindir tan y 14eg ganrif.

Mae'r Kalevala yn arwrgerdd hir iawn sy'n ymestyn i 50 canto. Y prif gymeriad yw'r arwr Kalevaidd Väinämöinen sy'n ceisio ennill y forwyn Aino, chwaer yr arwr Pohjolaidd Joukahainen. Ar ôl colli Aino mae Väinämöinen yn ceisio morwyn Pohjolaidd arall ac yn mynd trwy gyfres o anturiaethau rhyfeddol cyn ei hennill. Y tu ôl i hyn mae'n debyg fod y morwynion yn cynrychioli sofraniaeth ar y wlad, thema sydd i'w chael mewn sawl traddodiad llên gwerin.

Cafodd y Kalevala dadenedig ddylanwad mawr ar fywyd diwyllianol y Ffindir. Ymhlith yr artistiaid a ysbrydolwyd gan y gerdd mae'r cyfansoddwr Sibelius a'r darlunydd Akseli Gallen-Kallela yn sefyll allan.

Llyfryddiaeth[golygu]

Y cyfieithiad Saesneg clasurol yw,

  • W.F. Kirby (cyf.), Kalevala (1907: sawl argraffiad ers hynny, ar gael yn y gyfres Everyman's Library)