June Whitfield

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Actores Seisnig sy'n adnabyddus yn y Deyrnas Unedig ydy June Rosemary Whitfield, CBE (ganed 11 Tachwedd 1925). Mae wedi bod yn gweithio fel actores ar y radio ac mewn cyfresi comedi ar y teledu ers y 1950au.

Cafodd ei rôl flaenllaw gyntaf yn y comedi radio Take It From Here, ac arweiniodd hyn at waith ar y teledu, gan gynnwys ymddangosiadau gyda Tony Hancock trwy gydol ei yrfa deledu ef. Ym 1966, chwaraeodd Whitfield ei rôl gyntaf mewn comedi sefyllfa ar gyfer y teledu, yn Beggar My Neighbour a pharhaodd hyn am ddwy flynedd. Roedd hi hefyd wedi serennu mewn nifer o'r ffilmiau Carry On.

Ym 1968, dechreuodd June Whitfield a Terry Scott eu partneriaeth hir-hoedlog a gyrhaeddodd uchafbwynt gyda'u rôlau fel gŵr a gwraig yn Happy Ever After (1974–78) a Terry and June (1979–87). O 1992 tan 2003, actiodd Whitfield yng nghomedi sefyllfa Jennifer Saunders Absolutely Fabulous ac mae hi wedi chwarae cymeriad rheolaidd yn Last of the Summer Wine yn ogystal â chymeriad rheolaidd yn The Green Green Grass.