Joseph Vendryes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgolhaig Celtaidd ac ieithydd o Ffrainc oedd Joseph Vendryes (187518 Mehefin 1960). Fe'i ganed ym Mharis.

Roedd yn ddisgybl i Antoine Meillet, a bu'n Athro ieithoedd a llenyddiaethau Celtaidd yn yr École pratique des hautes études, ac yn dysgu ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Paris. Bu'n gyd-gyfarwyddwr y Revue Celtique gydag Émile Ernault a Marie-Louise Sjoestedt dan olygyddiaeth Joseph Loth. Wedi marwolaeth Loth yn 1934, sefydlodd Vendryes y cylchgrawn Études celtiques.

Cyhoeddiadau [golygu]

  • La religion des celtes, Coop Breizh, Spezet, 1997
  • Le Langage, introduction linguistique à l'histoire, Albin Michel
  • Traité de grammaire comparée des langues classiques , Honore Champion
  • Lexique étymologique de l'irlandais ancien , CNRS éditions