Hypothermia

Oddi ar Wicipedia
Hypothermia
Enghraifft o'r canlynolclefyd, abnormally low value, arwydd meddygol, achos marwolaeth, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathsymptom niwrolegol a ffisiolegol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebgorwres Edit this on Wikidata
SymptomauRhithweledigaeth edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hypothermia yw pan mae tymheredd y corff yn gostwng pan mae corff yn colli mwy o wres nag y mae'n ei dderbyn. Mewn bodau dynol, mae'n cael ei ddiffinio fel tymheredd craidd y croff sydd o dan 35.0 °C (95.0 °F). Mae symptomau yn dibynnu ar y tymheredd. Mewn hypothermia ysgafn ceir cryndod a phenbleth. Mewn hypothermia canolig mae'r crynu'n stopio a'r penbleth yn cynyddu. Mewn hypothermia dwys, gall fod dadwisgo paradocsaidd, ble mae'r person yn tynnu ei ddillad, a risg uwch o'r galon yn peidio a churo.[1]

Mae gan hypothermia ddau brif achos. Mae'n digwydd gan amlaf pan fydd person wedi wynebu oerfel eithafol. Gall hefyd ddigwydd o ganlyniad i unrhyw gyflwr sy'n lleihau gallu'r corff i gynhyrchu gwres neu'n achosi cynnydd yn y gwres sy'n cael ei golli.[2] Yn aml mae hyn yn cynnwys meddwdod ond gall hefyd gynnwys lefel isel o siwgr yn y gwaed, anorexia, a henaint. Mae tymheredd y corff fel arfer yn aros ar lefel gyson o 36.5–37.5 °C (97.7–99.5 °F)  trwy thermoreoleiddiad. Mae ymdrechion i gynyddu tymheredd y corff yn cynnwys crynu, cynnydd mewn gweithgaredd gwirfoddol, neu wisgo dillad mwy cynnes.[3] Gall hypothermia gael ei adnabod naill ai drwy symptomau'r person neu trwy fesur eu tymheredd craidd.

Mae triniaeth ar gyfer hypothermia ysgafn yn cynnwys diodydd cynnes, dillad cynnes, a gweithgaredd corfforol. I'r rhai sy'n dioddef o hypothermia canolig, mae blancedi gwresogi a hylifau mewnwythiennol sydd wedi'u cynhesu yn cael eu hargymell. Mae ailgynhesu fel arfer yn parhau hyd nes y bydd tymheredd y person dros 32 °C (90 °F). 

Mae hypothermia yn achosi o leiaf 1,500 o farwolaethau y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau. Mae'n fwy cyffredin ymhlith henoed a gwrywod.[4] Un o'r lefelau tymheredd corff isaf ar gofnod ble mae rhywun gyda hypothermia damweiniol wedi goroesi yw 13.0 °C (55.4 °F) pan bu bron i ferch 7 oed yn Sweden foddi.[5] Mewn achosion eithafol, ceir disgrifiadau o bersonau yn goroesi wedi dros chwe awr o CPR. O'r rhai sydd angen ECMO neu ddargyfeirio, mae tua 50% yn goroesi. Mae marwolaethau o ganlyniad i hypothermia wedi bod yn rhan bwysig o nifer o ryfeloedd. Daw'r term o'r Groeg ὑπο, ypo, sy'n golygu "o dan", a θερμία, thermía, sy'n golygu "gwres". Y gwrthwyneb i hypothermia yw hyperthermia, cynnydd yn nhymheredd y corff o ganlyniad i fethiant thermoreoleiddiad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brown, DJ; Brugger, H; Boyd, J; Paal, P (Nov 15, 2012). "Accidental hypothermia.". The New England Journal of Medicine 367 (20): 1930–8. doi:10.1056/NEJMra1114208. PMID 23150960. https://archive.org/details/sim_new-england-journal-of-medicine_2012-11-15_367_20/page/1930.
  2. Marx, John (2010). Rosen's emergency medicine: concepts and clinical practice 7th edition. Philadelphia, PA: Mosby/Elsevier. t. 1870. ISBN 978-0-323-05472-0.
  3. Robertson, David (2012). Primer on the autonomic nervous system (arg. 3rd). Amsterdam: Elsevier/AP. t. 288. ISBN 9780123865250. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-08. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Bracker, Mark (2012). The 5-Minute Sports Medicine Consult (arg. 2). Lippincott Williams & Wilkins. t. 320. ISBN 9781451148121. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-08. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Remarkable recovery of seven-year-old girl". Jan 17, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 March 2015. Cyrchwyd 2 March 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Rhybudd Cyngor Meddygol[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!