Hudlusern

Oddi ar Wicipedia
Hudlusern
Mathtaflunydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyfais sy'n taflu delweddau ar wal neu sgrin mewn ystafell dywyll yw'r hudlusern (neu llusern hud). Mae'n cynnwys blwch caeedig ag ynddo gannwyll neu lamp olew, y mae ei golau yn mynd trwy lens yn y blaen.[1][2]

Datblygwyd y ddyfais yn yr 17g. Yn yr oes cyn sinema roedd yn ffurf boblogaidd o adloniant. Fe'i defnyddiwyd hefyd yng nghyd-destun addysg o'r 19g ymlaen, i ddarparu darluniau i ddarlithoedd. Roedd yn cael ei defnyddio'n helaeth hyd at ganol yr 20g pan gafodd ei disodli gan y taflunydd sleidiau.

Yn wreiddiol, paentiwyd delweddau â llaw ar wydr ond yn ddiweddarach defnyddiwyd ffotograffau pan ddaeth y dechnoleg honno ar gael. Weithiau byddai'r sleidiau’n cynnwys mecanwaith syml i gynhyrchu mudiant (e.e. hwyliau’n troi ar felin wynt).

Hudlusern gyda stribed o ddelweddau wedi'u gosod arni. Mae'r simnai yn y cefn yn caniatáu i'r mwg a'r gwres o'r lamp olew ddianc.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Evolution of Scientific Instruments". Engineering: An llustrated Weekly Journal (yn Saesneg). Cyf. CXIX rhif. 3092. 3 Ebrill 1925. t. 407 – drwy Google Books.
  2. Rossell, Deac (2002). "The Magic Lantern". In von Dewitz, Bodo; Nekes, Werner (gol.). Ich sehe was, was Du nicht siehst! — Sehmaschinen und Bilderwelten: Die Sammlung Werner Nekes [I Can See What You Cannot See! — Seeing Machines and Worlds of Images: The Collection of Werner Nekes]. Göttingen, Germany: Steidl Verlag. ISBN 3-88243-856-8. OCLC 248511845 – drwy Academia.edu.