Hen beth

Oddi ar Wicipedia
Casgliad o hen drugareddau ar werth mewn ffenestr siop hen bethau.

Hen wrthrych a chanddo werth esthetaidd, hanesyddol, neu ariannol yw hen beth neu weithiau henbeth.[1] Am amser maith, cyfoethogion a llywodraethwyr oedd yn casglu hen bethau, mewn casgliadau preifat neu arddangosfeydd cyhoeddus megis amgueddfeydd.[2] Yn yr 20g, daeth casglu hen bethau yn ddifyrwaith i bobl gyffredin trwy siopau ail law, arwerthiannau, a ffeiriau hen bethau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  henbeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2017.
  2. (Saesneg) antique. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mehefin 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddiwylliant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.