Heddlu Hong Kong
Heddlu sydd dan Fiwro Diogelwch Hong Kong yw Heddlu Hong Kong (Saesneg: Hong Kong Police Force, Tsieinëeg: 香港警務處). Sefydlwyd ar 1 Mai 1844. Derbynodd y Siarter Frenhinol gan y Frenhines Elisabeth II ym 1969 am waith y llu yn ystod terfysgoedd 1967, a newidwyd yr enw i Heddlu Brenhinol Hong Kong. Yn dilyn trosglwyddiad sofraniaeth Hong Kong i Weriniaeth Pobl Tsieina, enw'r heddlu unwaith eto yw Heddlu Hong Kong.[1]
Comisiynydd cyfredol yr Heddlu yw Andy Tsang Wai-hung.[2] Gan gynnwys Heddlu Cynorthwyol Hong Kong a gweision sifil, mae gan yr heddlu weithlu o 40,000, ac felly Hong Kong sydd â'r gymhareb uchaf o ddinasyddion i heddweision yn y byd ond am un. Yn ogystal, mae gan Heddlu Morol Hong Kong 3,000 o swyddogion a 143 o gychod, y mwyaf sydd gan unrhyw heddlu sifil yn y byd.[3][4][5]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Carroll, John M. (2007). A Concise History of Hong Kong. Rowman & Littlefield. ISBN 0-7425-3422-7.
- ↑ Hong Kong Police Force. "Hong Kong Police Force - Organization Structure: Senior Officers". http://www.police.gov.hk/ppp_en/01_about_us/os_sofficers.html. Adalwyd March 3, 2011.
- ↑ Police History: Overview - The Future
- ↑ 香港警務處-警隊歷史
- ↑ 水警總區
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) (Tsieinëeg) Gwefan swyddogol