Gwylnos

Oddi ar Wicipedia

Gwylnos oedd y dull traddodiadol o goffáu'r meirw, trwy ddathlu yn hytrach na thristhau a galaru. Roedd chwarae cardiau (weithiau ar arch y corff marw)[1] ac yfed cwrw yn digwydd yn ystod yr wylnos. Ceir arfer cyffelyb yn yr Iwerddon (wake). Cyfeirir ati hefyd fel 'Gwylnos y Meirw'.

Dywed Hugh Evans: "Anodd iawn esbonio hyfdra'r hen Gymry ym mhresenoldeb y marw, a hwythau mor ofergoelus gyda golwg ar ymddangosiad ysbrydion yr ymadawedig."[2]

Arferai merched fynd i dŷ person eithaf sâl i "wylad", ers talwm, sef gwylio'r corff. Diddorol sylwi fod "wake" yn Saesneg hefyd yn cynnwys yr agwedd hon: "to watch or guard".[3]

Gyda thwf dylanwad y Methodistiaid yng Nghymru, difrifolwyd yr wylnos a'i throi'n achlysur crefyddol yn unig, a chollwyd y firi a fu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 'Llên Gwerin Meirion', 1898, a atgynhyrchwyd yn Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931
  2. Cwm Eithin
  3. Gwefan Saesneg www.oxforddictionaries.com; Archifwyd 2014-07-29 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 5 Awst 2014