Gini Bisaw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Guiné-Bissau)
Neidio i: llywio, chwilio
República da Gini Bisaw
Gweriniaeth Gini Bisaw
Baner Gini Bisaw Arfbais Gini Bisaw
Baner Arfbais
Arwyddair: "Unidade, Luta, Progresso"
(Portiwgaleg: Unoliaeth, Ymdrech, Cynnydd)
Anthem: Esta é a Nossa Pátria Bem Amada
Lleoliad Gini Bisaw
Prifddinas Bissau
Dinas fwyaf Bissau
Iaith / Ieithoedd swyddogol Portiwgaleg
Llywodraeth Gweriniaeth
- Arlywydd Manuel Serifo Nhamadjo (dros dro)
- Prif Weinidog Rui Duarte de Barros (dros dro)
Annibyniaeth
- Datganwyd
ar Bortiwgal
10 Medi 1974
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
36,125 km² (136eg)
22.4%
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2002
 - Dwysedd
 
1,586,000 (148eg)
1,345,479
44/km² (154ydd)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$1,167,000,000 (165eg)
$736 (177eg)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.348 (172ail) – isel
Arian cyfred Ffranc CFA (XOF)
Cylchfa amser
 - Haf
GMT (UTC+0)
(UTC+0)
Côd ISO y wlad .gw
Côd ffôn +245

Gwlad fechan ar arfordir Gorllewin Affrica yw Gini Bisaw (neu Guiné-Bissau). Mae'n ffinio â Senegal i'r gogledd, a Gini i'r de a dwyrain. Mae'n cynnwys gorynys Bijagós. Gwastadir arfordirol sy'n ddurfio'r rhan helaeth o'r wlad, gyda afonydd yn rhedeg trwddo i aberu yn yr Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn aelodau o'r grwpiau ethnig y Fulani, Mandyako a'r Mandingo. Portiwgaleg yw'r iaith genedlaethol swyddogol. Y brifddinas yw Bissau.

Hanes[golygu]

Yr Ewropeiaid cyntaf i ddarganfod y wlad oedd y Portiwgaliaid yn y 15fed ganrif. Dan ei reolaeth daeth yn ganolfan caethfasnach. Yn 1879 cafodd ei gwneud yn wladfa Bortiwgalaidd. Yn 1951 rhoddwyd statws talaith dramor Bortiwgalaidd i'r wlad. Enillwyd annibyniaeth oddi ar Bortiwgal yn 1974.