Grogg

Oddi ar Wicipedia
Grogg o reng flaen Pontypwl a Chymru, 1979.

Cerflun bychan gwawdlunol wedi ei greu o glai yw Grogg. Mae Grogiaid yn cael eu cynhyrchu yn "Nheyrnas y Grogiaid" a gafodd ei sefydlu yn 1965 yn Nhrefforest ger Pontypridd gan deulu John Hughes (John Hughes World of Groggs). Mae Grogiaid yn cael eu mowldio a'u peintio gyda llaw.

Fel arfer gwneir Grogiaid i bortreadu chwaraewyr rygbi Cymreig poblogaidd[1] ac weithiau enwogion gwledydd tramor. Erbyn heddiw mae'r enghreifftiau cynnar yn eitemau casgliadwy. Math o glai ydy "grog" a dyma pam y defnyddiwyd y gair.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Why Zeta Won't Be 'Groggy'". BBC News. 26 Tachwedd 2003. Cyrchwyd 2008-05-05.
Eginyn erthygl sydd uchod am gelf Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.