Georgetown, Guyana
Oddi ar Wicipedia
Georgetown yw prifddinas Guyana yn Ne America. Saif ar aber afon Demerera, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 225,800. Mae'n bothladd pwysig, yn allforio aur, siwgwr a reis ymysg nwyddau eraill.
Sefydlwyd y ddinas dan yr enw Longchamps gan y Ffrancwyr yn niwedd y 18fed ganrif. Yn ddiweddarach, daeth i feddiant yr Iseldiroedd, a newidiwyd yr enw i Stabroek. Wedi i'r ardal ddod i feddiant y Deyrnas Unedig yn nechrau'r 19eg ganrif, newidiwyd yr enw eto i "Georgetown".
Enwogion [golygu]
- Hamilton Green (g. 1934), prif weinidog Guyana 1985-1992
- Rupert Roopnaraine (g. 1943), awdur
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Genedlaethol Guyana
- Eglwys gadeiriol Brickdam
- Eglwys gadeiriol Sant Siôr
- Eglwys Sant Andrew
- Marchnad Stabroek
- Neuadd y dinas