Geirfa hanes Mecsico
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y |
C[golygu | golygu cod]
caudillo
- Arweinydd lleol a chanddo rym gwleidyddol a milwrol.
científicos
- Cylch o ddeallusion a chynghorwyr technocrataidd yn ystod el porfiriato.
D[golygu | golygu cod]
decena trágica, la
- Y deng niwrnod o 9 i 19 Chwefror 1913, yn ystod Chwyldro Mecsico, pan gafodd yr Arlywydd Francisco Madero ei ddymchwel.
F[golygu | golygu cod]
fueros
- Breintiau arbennig yr eglwys a'r fyddin.
H[golygu | golygu cod]
hacienda
- Ystâd fawr.
J[golygu | golygu cod]
jefe máximo, el
- Llysenw Plutarco Elías Calles.
M[golygu | golygu cod]
maximato, el
- Y cyfnod o 1928 i 1934 pan oedd Plutarco Elías Calles yn dominyddu gwleidyddiaeth Mecsico, er iddo ildio'r arlywyddiaeth ym 1928.
mestiso (Sbaeneg: mestizo)
- Un o dras gymysg Ewropeaidd a brodorol.
P[golygu | golygu cod]
pan o palo
- Ymadrodd Sbaeneg (yn llythrennol "bara neu bastwn") ac un o arwyddeiriau'r Arlywydd Porfirio Díaz.
porfiriato, el
- Y cyfnod o 1876 i 1911 pan oedd Porfirio Díaz yn dominyddu gwleidyddiaeth Mecsico, ac yn arlywydd yn y cyfnodau 1877–80 a 1884–1911.
pueblo
- Enw Sbaeneg ar bentrefi'r brodorion yng nghefn gwlad.
R[golygu | golygu cod]
- Y cyfnod o 1854 i 1876 a noder gan newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol rhyddfrydol dan arweiniad Benito Juárez. Cychwynnodd gyda datganiad Plan de Ayutla a alwai am ddymchwel yr unben Antonio López de Santa Anna. Yn sgil cwymp Santa Anna ym 1855, cafodd cymdeithas Mecsico ei rhyddfrydoli gan sawl deddf yn dileu'r fueros a chyfansoddiad 1857.