Front populaire

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canlyniadau etholiad deddfwriaethol 3 Mai 1936

Cynghrair o fudiadau adain chwith yn Ffrainc yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd oedd y Front populaire (Ffrangeg am "Ffrynt poblogaidd"), oedd yn cynnwys Plaid Gomiwnyddol Ffrainc (PCF), Adran Ffrengig Cymdeithas Gydwladol y Gweithwyr (SFIO), a'r Blaid Radicalaidd a Sosialaidd. Enillodd etholiadau deddfwriaethol 1936 gan ffurfio llywodraeth dan arweiniad Léon Blum, arweinydd yr SFIO, rhwng Mehefin 1936 a Mehefin 1937. Daeth y Radicalwr Camille Chautemps yn brif weinidog ar ei ôl, cyn i Blum dod yn ôl i rym ym Mawrth 1938, ac yna daeth y Radicalwr Édouard Daladier yn brif weinidog y mis nesaf. Diddymodd y Front populaire ei hunan yn hydref 1938 o ganlyniad i anghytundebau mewnol dros Rhyfel Cartref Sbaen, yr adain dde, a'r Dirwasgiad Mawr.

Ffurfio'r Front populaire[golygu]

Ar 14 Gorffennaf 1935, Diwrnod y Bastille, mynychodd 500,000 o bobl cyfarfod Comité de Rassemblement Populaire, lle ymunodd y Blaid Radicalaidd â'r Front o'r diwedd. Yn Ionawr 1936 arwyddwyd rhaglen y Rassemblement Populaire (RP). Ym Mawrth adunodd yr undebau llafur yn Gydffederasiwn Cyffredinol Llafur (CGT), ac ym mis Mai enillodd yr RP fwyafrif o seddi Siambr y Dirprwyon yn etholiad deddfwriaethol y wlad.[1]

Rhaglen y Front populaire[golygu]

Ymysg mesurau gwleidyddol y Front oedd gwahardd cynghreiriau ffasgaidd, diwygio'r wasg, a sicrháu addysg seciwlar. O ran polisi tramor a diogelwch, cefnogwyd Cynghrair y Cenhedloedd a diogelwch cyfunol. Ym materion economaidd, gwladolwyd diwydiannau rhyfel, byrhawyd yr wythnos weithio, sefydlwyd Swyddfa Wenith Genedlaethol, diddymwyd deddfau datchwyddol llywodraeth Laval, a chychwynwyd rhaglen gwaith cyhoeddus.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Levy (1987), t. 62.
  2. Levy (1987), t. 65.

Ffynhonnell[golygu]

  • Levy, D. A. L. 'The French Popular Front, 1936–37', yn The Popular Front in Europe, golygwyd gan Helen Graham a Paul Preston (Palgrave Macmillan, 1987), tt. 58–83.