Frederick Augustus Abel

Oddi ar Wicipedia
Frederick Augustus Abel
GanwydFrederick Augustus Abel Edit this on Wikidata
17 Gorffennaf 1827 Edit this on Wikidata
Llundain, Woolwich Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 1902 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal College of Chemistry Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • August Wilhelm von Hofmann Edit this on Wikidata
Galwedigaethcemegydd, dyfeisiwr Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol, cemegydd, llywydd corfforaeth, llywydd corfforaeth, llywydd corfforaeth, llywydd corfforaeth, llywydd corfforaeth, llywydd corfforaeth, cadeirydd Edit this on Wikidata
TadJohann Leopold Abel Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Medal Albert, Marchog Faglor, barwnigiaeth, Telford Medal, Bessemer Gold Medal, Cydymaith Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, gradd er anrhydedd, gradd er anrhydedd, Bakerian Lecture Edit this on Wikidata
Sir Frederick Augustus Abel, 1st Bt, gan Frank Bramley.

Cemegydd Seisnig oedd Syr Frederick Augustus Abel (17 Gorffennaf 18276 Medi 1902). Dyfeisiodd Abel a Syr James Dewar y ffrwydryn cordit ym 1889, a gafodd ei fabwysiadu gan y Fyddin Brydeinig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Abel yn Woolwich, yn fab hynaf Johann Leopold Abel, yn feistr cerdd a'i wraig, Louisa merch Martin Hopkins o Walworth.[2]

Ar ôl cwrs cemeg o dan Dr Ryan yn y Sefydliad Polytechnig Brenhinol, aeth i'r Coleg Cemeg Brenhinol, a sefydlwyd ym mis Hydref 1845 o dan A. W. Hofmann, fel un o'r chwech ar hugain o fyfyrwyr gwreiddiol.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl gorffen ei astudiaethau bu Abel yn gynorthwyydd yn y Coleg Brenhinol am bum mlynedd. Ym 1851 fe'i penodwyd yn arddangoswr cemeg yn Ysbyty St Bartholomew Ym 1852 fe'i penodwyd yn ddarlithydd ar gemeg yn yr Academi Filwrol Frenhinol yn Woolwich. Daeth yn fferyllydd ordnans yn Woolwich ym 1854, a gwnaed ef yn fferyllydd i'r adran ryfel yno ym 1856. Ymddeolodd o Woolwich ym 1888.[3]

Yn Woolwich Abel oedd y prif awdurdod swyddogol ar bopeth oedd yn gysylltiedig â ffrwydron. Llwyddodd i oresgyn y broblem o greu mwg du ar ôl ffrwydrad trwy greu powdr ‘di-fwg’ trwy ei ymchwiliadau i gotwm gwn. Datblygodd y broses o leihau cotwm gwn i fwydion mân, a alluogodd i'w weithio a'i storio heb berygl. Canfu ymchwil bwysig a gynhaliodd ar y cyd ag Andrew Noble ar natur y newidiadau cemegol a gynhyrchir wrth danio ffrwydron.

Gwaith mwyaf nodedig Abel oedd dyfeisio cordite ar y cyd a James Dewar ym 1889. Gorfododd y defnydd o ffrwydron uchel dramor i lywodraeth Prydain chwilio am well deunydd na chotwm gwn, a phenodwyd pwyllgor ym 1888, o dan lywyddiaeth Abel, i archwilio'r holl ffrwydron uchel modern. Nid oedd yr un ohonynt yn hollol addas i ofynion y gwasanaeth, ac ni fyddai eu dyfeiswyr yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol. Felly dyfeisiodd Abel a Dewar gyfansoddyn o gotwm gwn a nitroglyserin a'i aseinio ei freinlen i'r ysgrifennydd rhyfel ym 1890.[4]

Fe'i hurddwyd yn Gydymaith Urdd y Baddon ym 1877, yn farchog ym 1883, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon ym 1891, yn farwnig ym 1893, a Marchog Croes Fawr Urdd Victoria ym 1901.

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Abel â Sarah Selina, merch James Blanch o Fryste. Ni fu iddynt blant. Bu farw Sarah Selina ym 1888, ac ar 31 Rhagfyr 1888 priododd Guilietta La Feuillade.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Abel o fethiant y galon yn ei gartref, 2 Whitehall Court, Llundain, yn 75 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Nunhead.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Sir Frederck Augustus Abel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2013.
  2. "Abel, Sir Frederick Augustus, first baronet (1827–1902), chemist and explosives expert". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/30319. Cyrchwyd 2020-10-17.
  3. "Sir Frederick Augustus Abel - Encyclopedia". theodora.com. Cyrchwyd 2020-10-17.
  4. Magnusson, Magnus, gol. (1990). "ABEL, Sir Frederick Augustus". Chambers Biographical Dictionary. Caeredin: W&R Chambers. tt. 4.
  5. "Frederick Augustus Abel (1827-1902) - Find A..." www.findagrave.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-17.