Franz Schubert
Cyfansoddwr Awstraidd oedd Franz Peter Schubert (31 Ionawr 1797 - 19 Tachwedd 1828).
Ganed Schubert yn Himmelpfortgrund, gerllaw Fienna, y trydydd ar ddeg o un ar bymtheg o blant. Roedd eisoes yn cael gwersi cerddoriaeth gan ei dad, Franz Theodor Schubert, pan oedd yn chwech oed. Ym mis Hydref 1808, daeth yn aelod o'r côr yn Hofkapelle Fienna. Ceir y dyddiad 8 Ebrill - 1 Mai 1810 ar un o'i gyfansoddiadau cynnar.
Bu'n athro cynorthwyol am gyfnod, ond fel arall nid oedd ganddo ffynhonnell ddibynadwy o arian. Bu yn Hwngari am gyfnod yn 1818 gweithio fel athro cerddorol i deulu Esterházy. Dim ond wedi ei farwolaeth y daeth ei gerddoriaeth yn wirioneddol boblogaidd, ond perfformiwyd dwy opera o'i waith yn 1820 a chafodd lwyddiant gyda chyhoeddi Opus 1-7 a 10-12 yn 1821/22. Erbyn hyn roedd ei iechyd yn dirywio. Bu farw ar 19 Tachwedd 1828 wedi pythefnos o dwymyn. Claddwyd ef yn mynwent Währinger, Fienna, heb fod ymhell o fedd Ludwig van Beethoven.
Cynnwys |
Gweithiau [golygu]
Lieder (Caneuon) [golygu]
- Tua 600 o Lieder, yn cynnwys:
- y cylchoedd Die schöne Müllerin a Winterreise (i eiriau gan Wilhelm Müller)
- y cylch Schwanengesang
- y cylch Fräulein vom See (i eiriau Walter Scott yn "The Lady of the Lake").
- Im Abendrot, Erlkönig, Der Fischer, Die Forelle, Das Lied im Grünen, Heidenröslein, Gesänge des Harfners (3-teilig), Der Jüngling am Bach, An den Mond (6 Versionen), Der Schatzgräber, Der Tod und das Mädchen, Der Wanderer, Wanderer an den Mond, Zügenglöcklein.
Gweithiau i gerddorfa [golygu]
Simphoniau [golygu]
- Sinfonie Nr. 1 D-Dur, D 82
- Sinfonie Nr. 2 B-Dur, D 125
- Sinfonie Nr. 3 D-Dur, D 200
- Sinfonie Nr. 4 c-Moll, D 417 "Die Tragische"
- Sinfonie Nr. 5 B-Dur, D 485
- Sinfonie Nr. 6 C-Dur, D 589
- Sinfonie D-Dur, D 615, Fragment
- Sinfonie D-Dur, D 708a, Fragment
- Sinfonie E-Dur, D 729, Fragment
- Sinfonie Nr. 7 h-Moll, D 759, Fragment, "Die Unvollendete"
- Sinfonie D-Dur, D 936a, Fragment
- Sinfonie Nr. 8 C-Dur, D 944 "Die Große"