Fyodor Tyutchev
Fyodor Tyutchev | |
---|---|
Ganwyd | 23 Tachwedd 1803 (yn y Calendr Iwliaidd) Ovstug |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1873 (yn y Calendr Iwliaidd) Pushkin |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, diplomydd, athronydd, gwleidydd, cyfieithydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Cyflogwr | |
Arddull | telyneg |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Tad | Ivan Nikolayevich Tyutchev |
Mam | Yekaterina Tolstaya |
Priod | Eleonora Tyutcheva, Ernestina Pfeffel |
Partner | Yelena Denisyeva |
Plant | Ivan Tyutchev, Mariya Tyutcheva, Anna Tyutcheva, Darya Tyutcheva, Fyodor Tyutchev, Yekaterina Tyutcheva |
Llinach | Tyutchev family |
Gwobr/au | Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Santes Anna, Dosbarth 1af, Urdd Sant Vladimir, 3ydd Dosbarth |
llofnod | |
Roedd Fyodor Ivanovich Tyutchev (Ffedor Ifánofits Tiwtsief) (Rwseg: Фёдор Иванович Тютчев) (5 Rhagfyr 1803 – 27 Gorffennaf 1873) yn fardd Rwseg a diplomydd o Rwsia.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd ym mhentref Ovstug ger Bryansk Roedd yn byw ar adegau ym München a Torino ac y roedd yn nghynefin Heine a Schelling. Doedd e ddim yn cyfrannu at fywyd llenyddol, nac yn ei alw ei hun yn ysgrifennwr. Tuag at 400 o'i gerddi sydd ar glawr, ac mae rhai llinellau ohonynt yn cael eu dyfynnu'n aml yn Rwsia.
Mae'r cerddi cynnar yn perthyn i dradoddiad barddoniaeth Rwsiaidd yr 18g. Yn y 1830au traddodiadau Oes Rhamantaidd Ewrop (a'r Almaen yn arbennig) sydd yn gryf iawn yn ei farddoniaeth. Cerddi telynegol athronyddol yw'r rhain: myfyrion ar y dynged ddynol, ar yr hollfyd, ar yr ansawdd sydd yn brif bwnc ohonynt. Yn y 1840au ysgrifennodd rai erthyglau gwledyddol ynglŷn â'r berthynas rhwng Rwsia a gwareiddiad y Gorllewin. Yn y 1850au creuodd Tiwtsief rhai rhieingerddi trywan y mae serch yn cael ei weld fel trasiedi ynddynt. Mae'r cerddi hyn wedi cael eu huniaethu â'r Cylch Denísïefa, nid amgen, y cerddi a gafodd eu cysegru i gariad y bardd, E. A. Denísïefa. Yn y 1860au a'r 1870au cerddi gwleidyddol sydd yn goruchafu yn ei farddoniaeth.
Cerdd enwocaf Tyutchev yw Silentium! — anogaeth chwerw i ddistawrwydd edifaru'r ffaith nad yw'r naill dyn ddim yn gallu deall y llall o'r bron. Mae'r llinell "Anwiredd yw meddwl wedi'i adrodd" (Rwseg Мысль изреченная есть ложь) yn un o ddiarhebion Tyutchev sydd yn cael eu dyfynnu amlaf. "Ni ellir deall Rwsia drwy feddwl" (Умом Россию не понять) a "Ni roddir i ni ddarogan sut yr ymatebith ein gair i ni" (Нам не дано предугадать, как наше слово отзовется) yw'r rhai eraill.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Tyutcheviana