Eva Ström

Oddi ar Wicipedia
Eva Ström
Ganwyd4 Ionawr 1947 Edit this on Wikidata
Lidingö Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, meddyg, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRevbensstäderna Edit this on Wikidata
PlantKarin Ström Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Diwylliant ac Addysg, Gwobr Aftonbladet am lenyddiaeth, Gwobr Aniara, Gwobr Samfundet De Nios Särskilda, Gwobr Tegnérpriset, Harry Martinson-priset, De Nios Vinterpris, Q10511054, Gerard Bonnier Poetry Award Edit this on Wikidata

Awdures a meddyg o Sweden yw Eva Ström (ganwyd 4 Ionawr 1947) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, bywgraffydd, awdur geiriau caneuon a beirniad llenyddol.[1] Mae'n fam i'r gantores a'r awdur Karin Ström, a aned yn 1977.

Fe'i ganed yn Lidingö, swydd Stockholm ar 4 Ionawr 1947.[2]

Yn 1877 y cyhoeddodd ei gwaith pwysig cyntaf, sef cyfrol o gerddi o'r enw Den brinnande zeppelinaren. O ddydd i ddydd, rhwng 1974 a 1988, gweithiai fel meddyg, cyn troi'n awdur proffesiynol.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Derbyniodd Wobr Llenyddiaeth Cyngor y Gwledydd Llychlynnaidd yn 2003 am ei chasgliad o gerddi, Revbensstäderna ("Dinasoedd yr Asennau") ac yn Ionawr 2010, fe'i hetholwyd yn aelod o Academi Frenhinol Gwyddoniaeth Sweden am ei chyflawniadau yn y dyniaethau ac am wasanaeth rhagorol i wyddoniaeth.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • 1977 Den brinnande zeppelinaren, lyrikk
  • 1979 Steinkind
  • 1982 Det mörka alfabetet
  • 1983 Akra
  • 1986 Samtal med en daimon
  • 1989 Kärleken till matematiken, dikt
  • 1991 Mats Ulfson, roman
  • 1993 Brandenburg, dikt
  • 1994 Edith Södergran, biografi
  • 1997 Berättelser dikt
  • 1997 Poesi & musik, CD + hefte
  • 1999 Bröd, roman
  • 2002 Revbensstäderna, dikt
  • 2004 Rött vill till rött, dikt
  • 2007 Claires leende, roman
  • 2013 Utskuret ur ett större träd, dikt

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Nordic Council Literature Prize. Literature Prizewinners 1962 - 2013". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-01. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2014.
  2. Disgrifiwyd yn: https://runeberg.org/vemarhon/0435.html. dyddiad cyrchiad: 4 Mehefin 2022. https://runeberg.org/vemardet/2001/1071.html. dyddiad cyrchiad: 4 Mehefin 2022.
  3. Royal Swedish Academy of Sciences: Från teoretisk magnetism till brinnande zeppelinare – fem nya ledamöter invalda i akademien Archifwyd 2010-12-14 yn y Peiriant Wayback.; datganiad i'r wasg; 3 Chwefror 2010 Nodyn:Sv icon