El Tajín

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pirámide de los Nichos

Hen ddinas yn perthyn i wareiddiad Totonaca ym Mecsico yw El Tajín. Ystyr "Tajín" yw "Lle y taranau" mewn Totonaceg. Saif ger dinasoedd Papantla a Poza Rica, yn nhalaith Veracruz.

Roedd y ddinas yn ganolfan i wladwriaeth Totonaca. Credir i'r ddinas gael ei hadeiladu gyntaf y y ganrif 1af OC. Yn y cyfnod clasurol cynnar, mae'n dangos dylanwad Teotihuacan, ac yn ddiweddarach yn dangos dylanwad Toltec. Nid oedd neb yn byw yno erbyn i'r Sbaenwyr gyrraedd yn y 16eg ganrif. Dynodwyd El Tajín yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1992.