Eglwys Gadeiriol Brasília
Gwedd
Math | eglwys gadeiriol Gatholig |
---|---|
Enwyd ar ôl | Our Lady of Aparecida |
Agoriad swyddogol | 31 Mai 1970 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Brasília |
Gwlad | Brasil |
Cyfesurynnau | 15.7983°S 47.8756°W |
Arddull pensaernïol | Pensaernïaeth Fodern |
Statws treftadaeth | heritage asset listed by IPHAN |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
Manylion | |
Deunydd | concrit |
Esgobaeth | Archesgobaeth Brasília |
Eglwys gadeiriol yn ninas Brasília, prifddinas Brasil, yw Eglwys Gadeiriol Brasília (Portiwgaleg: Catedral Metropolitana Nossa Senhora Aparecida). Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer modernaidd blaengar Oscar Niemeyer, sydd hefyd yn gyfrifol am safleoedd eraill yn y brifddinas.
Mae'n strwythur ffrâm goncrid hyperboloid asymetrig gyda tho gwydr, agored, sydd fel petai'n ymestyn am y nefoedd. Cysgrwyd yr adeilad yn eglwys gadeiriol ar 31 Mai 1970. Mae'r strwythur hyperboloid cyfan yn cael ei ddal i fyny gan 16 colofn goncrid sy'n pwyso 90 tunnell yr un; yn ôl y pensaer maent yn cynrychioli dwylo yn ymestyn i fyny am y nefoedd.