Effaith ffotodrydanol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Wrth i belydrau electromagnetig o'r enw ffotonau sydd gydag amledd digonol disgyn ar arwyneb metel, mae electronau yn amsugno'r egni ac yn allyrru o arwyneb y metel.

Mae electronau mewn metel yn rhydd ond mae yna rymoedd electrostatig yn glynu nhw i'r metel. Er mwyn i'r electronau dianc mae'n rhaid iddynt weithio yn erbyn y grymoedd atynnol hyn. I wneud hyn mae angen y cyfanswm gywir o egni.

Ffwythiant gwaith- Ф yw'r swm o egni minimwm sydd angen i electron i fedru dianc o arwyneb y metel.

Darganfodd Albert Einstein bod un ffoton yn medru taro electron mewn arwyneb metel. Os yw'r egni ffoton yn hafal a'r ffwythiant gwaith sef yr egni minimwm, mae egni'r ffoton yn cael ei drosglwyddo i'r electron i'r electron ddianc i'r arwyneb. Wrth i'r electron cyrraedd yr arwyneb , mae'r holl egni wedi cael ei drosglwyddo i'r electron ac nid yw'n bodoli mwyach.

Sefyllfaoedd Gwahanol[golygu]

Pan mae Egni'r ffoton yn hafal i'r ffwythiant gwaith[golygu]

  • Mae egni'r ffoton yn ddigon i allyrru'r electron i arwyneb y metel.
  • Nid oes gan y ffoton egni cinetig.
  • Mae amledd y ffoton ar ei finimwm, gelwir hyn yn amledd trothwy- f0.
Ffoton 1.png







Pan mae Egni'r ffoton yn fwy na'r ffwythiant gwaith[golygu]

  • Mae gan y ffoton digon o egni i achosi allyriad.
  • Mae'r ffotoelectron yn dianc gyda gweddill egni'r ffoton yn cael ei drosglwyddo i egni cinetig.
  • Gelwir yr egni cinetig sydd ar ôl yn EKmacs.


Photoelectric effect.svg












Pan mae'r Egni ffoton yn llai na'r ffwythiant gwaith[golygu]

  • Nid oes yna digon o egni i allyrru electron.
  • Amledd y ffoton yn llai na'r amledd trothwy- f0.
Ffoton 2.png