Edward Kennedy

Oddi ar Wicipedia
Edward Kennedy
GanwydEdward Moore Kennedy Edit this on Wikidata
22 Chwefror 1932 Edit this on Wikidata
Dorchester Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 2009 Edit this on Wikidata
o canser ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Barnstable, Massachusetts, Hyannis Port Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol y Gyfraith Prifysgol Virginia
  • Coleg Havard
  • Milton Academy
  • The Hague Academy of International Law
  • Portsmouth Abbey School
  • Fessenden School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Swydddistrict attorney, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadJoseph P. Kennedy Edit this on Wikidata
MamRose Kennedy Edit this on Wikidata
PriodJoan Bennett Kennedy, Victoria Reggie Kennedy Edit this on Wikidata
PlantKara Kennedy, Edward M. Kennedy, Jr., Patrick J. Kennedy Edit this on Wikidata
LlinachKennedy family Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Four Freedoms, Gwobr Proffil Dewrder, Gwobr Ffoaduriaid Nansen, Urdd Eryr Mecsico, Urdd Teilyngdod (Chili), Hall o Honor y Blaid Lafur, Pardes Humanitarian Prize in Mental Health, Grand Officer of the Order of the Sun of Peru‎, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Urdd Anrhydedd Gweriniaeth yr Eidal, Dr. Nathan Davis Award for United States Senators Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auHarvard Crimson football Edit this on Wikidata
llofnod
Edward Kennedy

Cyfnod yn y swydd
6 Tachwedd 1962 – 25 Awst 2009
Rhagflaenydd Benjamin A. Smith II
Olynydd Paul G. Kirk

Geni

Seneddwr o Massachusetts oedd Edward Moore "Ted" Kennedy (22 Chwefror 193225 Awst 2009).[1] Roedd yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd a gweithiodd gyda John Kerry. Bu'n seneddwr ers mis Tachwedd 1962, a threuliodd wyth tymor llawn yn y Senedd. Pan bu farw, ef oedd yr ail uwch seneddwr i wasanaethu am y cyfnod hiraf yn y Senedd, ar ôl Robert Byrd o Orllewin Virginia, a'r trydydd seneddwr i wasanaethu am y cyfnod hiraf erioed. Roedd yn fwyaf adnabyddus fel un o gefnogwyr mwyaf blaenllaw mesurau ac achosion rhyddfrydol. Ef oedd brawd yr Arlywydd John F. Kennedy a'r Seneddwr Robert F. Kennedy, ac roedd yn fab i'r Cynghreswr Patrick J. Kennedy. Am nifer o flynyddoedd ef oedd yr aelod mwyaf blaenllaw o'r teulu Kennedy. Llofruddiwyd ei frodyr John a Robert.

Ganwyd Kennedy ym Moston a chafodd ei fagu ym Massachusetts, Efrog Newydd, Fflorida, a Lloegr. Derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Harvard, lle cafodd ei ddiarddel am dwyllo mewn arholiad. Cafodd ei dderbyn am yr eildro'n ddiweddarach ac yna astudiodd yn Adran y Gyfraith, Prifysgol Virginia. Priododd Virgina Joan Bennett ym 1958 ond chwalodd y berthynas yn hwyrach. Ym 1960, ef oedd rheolwr ymgyrch lwyddiannus ei frawd John i fod yn arlywydd, ac yna gweithiodd fel cyfreithiwr rhanbarthol cynorthwyol yn Swydd Suffolk, Massachusetts. Derbyniwyd Kennedy i'r Senedd yn sgil etholiad arbennig ym 1962 i lenwi'r sedd a ddaliwyd gan John yn flaenorol. Cafodd ei anafu'n ddifrifol mewn damwain awyren ym 1964 a dioddefodd o boen cefn am weddill ei oes o ganlyniad. Etholwyd Kennedy i dymor llawn o chwe mlynedd ym 1964 a chafodd ei ail-ethol eto ym 1970, 1976, 1982, 1988, 1994, 2000 a 2006.

Yn ystod digwyddiad Chappaquiddick ym 1969, aeth y car yr oedd Kennedy yn gyrru dros ochr pont gan blymio i'r dwr oddi tano, gan arwain at farwolaeth un o'r teithwyr a oedd yn y car Mary Jo Kopechne. Plediodd Kennedy yn euog i adael safle'r ddamwain a rhoddwyd dedfryd wedi'i ohirio iddo; fodd bynnag, roedd amheuon y cyhoedd ynglŷn â'i fersiwn ef o'r digwyddiadau wedi cael effaith andwyol ar un obaith a oedd ganddo i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. Pan geisiodd am y swydd yn etholiad arlywyddol 1980, bu'n aflwyddiannus yn ei ymgyrch cychwynnol i'r Arlywydd Democrataidd Jimmy Carter. Roedd Kennedy'n adnabyddus am ei ddawn areithio, gyda'i deyrnged i'w frawd Robert ym 1968 a'i alwad am ryddfrydiaeth Americanaidd yng Nghynhadledd Cenedlaethol y Democratiaid ym 1980 ymhlith ei areithiau mwyaf dylanwadol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Bedd Edward Kennedy
Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
Benjamin A. Smith II
Seneddwr dros Massachusetts
gyda Leverett Saltonstall, Edward Brooke,
Paul Tsongas, John Kerry

19622009
Olynydd:
Paul G. Kirk
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.