Dragŵn

Oddi ar Wicipedia
Dragwniaid Ffrengig yn cipio'r faner Brwsiaidd yn ystod Brwydr Jena (1806).

Milwr oedd yn cyfuno sgiliau'r troedfilwr a'r marchfilwr oedd dragŵn (lluosog: dragwniaid)[1] neu dragwner (lluosog: dragwners).[2] Datblygodd y dragŵn yn Ewrop ar ddiwedd y 16g, a chafodd ei ddefnyddio trwy gydol yr 17g a'r 18g.. Ymladdodd y dragŵn fel marchfilwr ysgafn pan yn ymosod, a bu'n disgyn oddi ar gefn ei geffyl pan yn amddiffyn.[3]

Benthyciad o'r enw Saesneg dragoon, sy'n dod o'r Ffrangeg dragon, yw'r enw Cymraeg. Bôn y gair yw arf y dragŵn, math o garbin neu fwsged byr a elwir yn dragon gan y Ffrancod gan iddo chwythu tân megis draig.[4] Yn wahanol i farchfilwyr eraill, trefnwyd dragwniaid mewn cwmnïau ac nid sgwadronau, ac roedd rhengoedd troedfilwyr gan y swyddogion. Ers oes rhyfeloedd cynnar Ffredrig Fawr yn yr 17g, ystyr dragŵn yw marchfilwr canolig. Enwir y mwyafrif o gatrodau marchfilwyr ysgafn y Fyddin Brydeinig yn "ddragwniaid ysgafn" yn y 18g a dechrau'r 19g. yn yr 20g addasodd y catrodau dragŵn yn ffurfiannau arfogedig yn y Fyddin Brydeinig, ac yn droedfilwyr moduraidd (dragons portés) ym Myddin Ffrainc.[3] Mae rhai catrodau arfogedig yn parháu i gadw'r enw dragŵn.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [dragoon].
  2.  dragwner. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 12 Chwefror 2015.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) dragoon (soldier). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mehefin 2015.
  4. (Saesneg) dragoon. Oxford English Dictionary. Adalwyd ar 17 Mehefin 2015.
  5. Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 79.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: