Dominique Strauss-Kahn
| Dominique Strauss-Kahn | |
| 10fed Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol | |
|---|---|
| Dirprwy | John Lipsky |
| Dechrau cyfnod | 1 Tachwedd 2007 |
| Diwedd cyfnod | 18 Mai 2011 |
| Rhagflaenydd | Rodrigo Rato |
| Olynydd | John Lipsky (gweithredol)[1] |
| Swydd 2 | Gweinidog yr Economi a Chyllid Ffrainc |
| Dechrau cyfnod | 4 Mehefin 1997 |
| Diwedd cyfnod | 2 Tachwedd 1999 |
| Dyddiad geni | 25 Ebrill, 1949 |
| Man geni | Neuilly-sur-Seine, Ffrainc |
Economegydd, cyfreithiwr a gwleidydd Ffrengig ydy Dominique Gaston André Strauss-Kahn (ganed 25 Ebrill 1949), a gyfeirir ato'n aml yn y cyfryngau fel DSK,[2][3]. Mae'n aelod o Blaid Sosialaidd Ffrainc. Penodwyd Strauss-Kahn yn Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol ar 28 Medi 2007, gyda chefnogaeth arlywydd ei wlad Nicolas Sarkozy, a gweithiodd yn y swydd tan ei ymddiswyddiad ar 18 Mai 2011.[4]
Mae'n athro economeg llawn yn y Athrofa Paris ar gyfer Astudiaethau Gwleidyddol. Strauss-Kahn oedd Gweinidog yr Economi a Chyllid o 1997 tan 1999 fel rhan o lywodraeth Lionel Jospin. Mae'n perthyn i adain dde y Blaid Sosialaidd yn Ffrainc (sydd ar ochr canol-chwith gwleidyddiaeth Ffrainc).
Ym mis Mai 2011, arestiwyd Strauss-Kahn yn Ninas Efrog Newydd ac fe'i gyhuddwyd o ymosodiad rhywiol, caethiwed gorfodol ac ymgais i dreisio morwyn a aeth i mewn i'w ystafell yn ei westy. Gwrthodwyd mechnïaeth iddo ac aethpwyd ag ef i'r ddalfa, tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 20 Mai.[5] Hyd yn hyn nid yw Strauss-Kahn wedi cyflwyno ei ble yn ystod yr achos, ond mae'n gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.[6][7] Ar 23 Awst gwrthodwyd yr holl gyhuddiadau.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.Baker (15 Mai 2011). .
- ↑ Willsher (15 Mai 2011). Dominique Strauss-Kahn's sex arrest could end presidential hopes. The Guardian.
- ↑ (Ffrangeg) Dominique Strauss-Kahn. Gala.fr.
- ↑ BOSCHAT, Nathalie; GAUTHIER-VILLARS, David; EL-GHOBASHY, Tamer (19 Mai 2011). Strauss-Kahn Resigns From IMF. The Wall Street Journal.
- ↑ Strauss-Kahn Ordered Held Without Bail by N.Y. Judge — Video. Bloomberg.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'nyt16may - ↑ [1]