Defnyddiwr:Twm Elias/Morgrug
Llên Gwerin a Byd Natur:
Morgrug – 5
gan Twm Elias
Nodyn: Agorwch y ddalen Morgrugyn; ceisiwch benderfynnu ble i ychwanegu'r canlynol. Cofiwch fod geirdarddiad / yr enwau amrywiol ayb fel arfer ar y wici Cymraeg yn agos i frig y ddalen.
Pryfed cymdeithasol[golygu | golygu cod]
Yn achos rhai aelodau o deulu mawr y pryfetach yr enw lluosog ddaw gynta’ pan fyddwn yn cyfeirio atynt, e.e. gwenyn, llau, llyslau, gwybed a morgrug. Cydnabyddiaeth, mae’n debyg, mai yn eu niferoedd y gwelwn ni y rhain fel arfer yn hytrach na fesul un, boed yn wenynen, lleuen, gwybedyn neu forgrugyn. Does dim yn rhyfeddol yn hynny oherwydd creaduriaid torfol ydy nhw beth bynnag – y llau (os cânt lonydd) a’r gwybed yn medru bod yn niferus iawn am eu bod yn bridio mor gyflym tra bod y gwenyn a’r morgrug yn byw yn dorfol mewn nythfeydd anferth o gannoedd a miloedd o unigolion.
Mae y rhain wedi datblygu cyfundrefnau cymdeithasol cyd-ddibynnol hierarchaidd a soffistigedig dan reolaeth brenhines, neu frenhinesau, sy’n fam(au) i’r nythfa gyfan. Mae’n ddadl gan rai, am na fedr unrhyw wenynen na morgrugyn unigol (heblaw am y frenhines efallai am gyfnodau,) fyw yn annibynnol na chenhedlu, mai y nythfa ei hun, sy’n cynnwys y frenhines / brenhinesau, morgrug gwryw a’r llu mawr o weithwyr (sydd yn glônau beth bynnag), ddylsid gael ei hystyried fel yr uned rywogaethol yn hytrach na’r morgrug unigol. Mi adawa’i chi bendroni am hynny!
Yn sicr, mae trefn dorfol y nythfa yn hanfodol i lwyddiant y pryfed cymdeithasol hyn a bod cydweithredu wedi rhoi mantais aruthrol iddyn nhw i reoli ag egsploetio’u cynefin ac i amddiffyn eu hunnain neu, yn hytrach, y nyth yn effeithiol. Ar y cyd gallant godi nythod mawr sy’n hynod o gywrain. Fel y dywedodd rhywun o Faldwyn wrtha i flynyddoedd yn ôl bellach: ‘go brin y buase un morgrugyn yn llwyddo i wneud llawer, ond mi fedr cant godi twmpath a miliwn godi mynydd (o bridd)’.
Enwau morgrugaidd[golygu | golygu cod]
Er bod tua 15,000 o wahanol rywogaethau o forgrug yn wybyddus drwy’r byd, 42 ohonyn nhw yng ngwledydd Prydain, prin oedd yr enwau llafar ar y gwahanol fathau mewn unrhyw iaith tan yn ddiweddar. Fel y crybwyllais eisoes yn y gyfres hon, enwi pethau yn ôl eu defnyddioldeb fyddai gwerin gwlad ac os nad oedd y creadur dan sylw yn bwysig – yn fwytadwy, yn feddyginiaeth, yn bla neu yn arwydd tywydd neu dymor, mi wnai’r enw ‘morgrug’ yn iawn am y cyfan. Eto fyth, yn y Gymraeg, ceir: morgrug coch (mewn gerddi a chloddiau pridd), morgrug du (dan balmant yr ardd), morgrug melyn (gaiff hefyd eu galw yn forgrug y maes) a morgrug y coed (sy’n fwy o faint).
Dywedir hefyd am forgrug asgellog, ond cyfeirio wna’r enw hwn at gyflwr ehedog y morgrug gwryw a’r brenhinesau ifanc o bob rhywogaeth pan fyddant yn gadael eu twmpathau nythu a chodi’n uchel i’r awyr ar eu ehediad caru. Dim ond o dan amodau arbennig ym misoedd Gorffennaf ag Awst y digwydda hyn – ar b’nawn tawel a phoeth pan fydd lleithder yr awyr yn weddol uchel. Bydd gan pob rhywogaeth ei hamodau penodol ei hun i heidio a phan ddigwyddith hynny bydd cymylau trwchus o forgrug o’r rhywogaeth honno yn codi o dwmpathau dros ardal eang. Bydd eu cyd amseru yn rhyfeddol. Pan welwn heidiau o forgrug ar eu hediad, bydd yn arwydd o dywydd braf, ond bod hefyd siawns dda o derfysg cyn bo hir[1].
Maw-, mor, mŷr[golygu | golygu cod]
Mewn rhai ardaloedd ceir enwau eraill ar forgrug. Mawion, neu mowion yn yr hen Sir Ddinbych[2], tra, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, arferid yr enwau mŷr, myrion (unigol: myrionen) yn nwyrain Morgannwg a myrdwyn am dwmpath morgrug. Nodir hefyd mor, môr, morion (unigol: morionen)[3], sy'n debyg iawn i’r enwau: meryan (Cernyweg) a merion, merien (Llydaweg).
Enwau cyfredol[golygu | golygu cod]
Daw’r enwau hyn â ni yn daclus at wreiddiau ein henw presennol am forgrug. Yr enw gwyddonol ar ein morgrug coch cyffredin ni yw Myrmica rubra – sylwch ar yr elfen ‘myr’ ynddo ac ystyriwch hefyd bod y gair morgrug yn tarddu o ‘mor’ a ‘crug’ – y crug yn golygu twmpath neu fryncyn fel y gwelwn mewn enwau lleoedd megis Crug y bar, Crughywel. Cyfeirio at y twmpath neu’r nythfa wna’r enw morgrug felly, ac mae hynny’n rhoi’r argraff i mi bod ein cyn deidiau ni, yma yng Nghymru, yn ystyried mai y nythfa oedd bwysicaf yn hytrach na’r morgrugyn ar ben ei hun.
Gweithwyr caled[golygu | golygu cod]
Mae morgrug, am eu bod yn gweithio mor drefnus, diwyd a diflino, wedi ennyn edmygedd pobl ar draws y byd ac yn batrwm o weithgarwch cynhyrchiol inni ei efelychu. Yn Llyfr y Diarhebion yn y Beibl ceir yr adnod: “Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth”[4]. Ym Moroco, ystyrid bod bwyta nifer o forgrug yn fodd i gael gwared o ddiogi.
Yn Ewrop esgorodd y ddelwedd hon o’r morgrug gweithgar ar sawl dameg neu foeswers. Y mwyaf adnabyddus yw Chwedlau Æsop. Caethwas (ond yn un breintiedig) yng Ngroeg yn y 6ed ganrif CC oedd Æsop a chyhoeddwyd sawl fersiwn Gymraeg o rai ohonynt dros y ddwy ganrif ddiwethaf: Y morgrugyn a’r ceiliog rhedyn – yn cyferbynu’r ceiliog rhedyn fu’n gwastraffu ei amser yn canu drwy’r haf â’r morgrugyn fu’n hel storfa o fwyd at y gaeaf (5). Y morgrugyn ymffrostgar – mae’r un bychan ymhlith rhai llai yn gweld ei hun yn fwy na phawb, ond bychan iawn ydi o mewn gwirionedd pan geisith ymffrostio ymysg rhai mwy.[5]
Y morgrugyn a’r golomen – stori am forgrugyn a ddisgynodd i ffynnon â’r golomen yn gollwng deilen i’r dŵr i’w achub. Talwyd y pwyth yn ôl pan frathodd y morgrugyn sawdl dŷn oedd ar fin dal y golomen, gan ei galluogi i ddianc. Y wers ydy bod yr un cymwynas yn teilyngu y llall[6]
Morgrug yn y chwedlau Cymreig[golygu | golygu cod]
Mae gan forgrug le anrhydeddus yn y chwedlau Cymreig hefyd. Yn stori Culhwch ac Olwen[7], un o’r tasgau amhosib a osodwyd gan Ysbadadden Bencawr i Culhwch eu cyflawni cyn y gallai ennill llaw Olwen mewn priodas, oedd adfer naw llond llestr o had llin a heuwyd mewn llain arbennig o dir. Wrth lwc, pan achubodd un o gynorthwyr Culhwch, Gwythyr fab Greidawl, dwmpath morgrug rhag cael ei losgi gan dân cytunodd y morgrug diolchgar i hel yr hadau o’r pridd ar ei ran. Dyna wnaethpwyd ac roedd Gwythyr yn falch iawn pan gyrhaeddodd morgrugyn bach cloff efo’r hedyn ola’ un.
Defnyddiau meddygol[golygu | golygu cod]
Prin yw’r cyfeiriadau at ddefnyddiau meddygol morgrug. Ond byddai b’yta wyau morgrug efo mêl yn rysait i leddfu siom cariad nas cydnabyddir. Yn yr Alban rhoddid wyau morgrug a sug nionyn yn y glust i wella byddardod, tra y defnyddid pâst o forgrug wedi eu morteru’n fân efo malwen mewn finegr i waredu dafaden oddi ar y croen. Byddai natur asid y morgrug a’r finegr gyda’i gilydd yn siwr o fod yn effeithiol yn yr achos hwn[8]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Am y Tywydd (2008), Twm Elias, tud. 132
- ↑ The Linguistic Geography of Wales (1973), Alan R Thomas, tud. 428.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru URL?
- ↑ Y Beibl:Diarhebion VII, 7
- ↑ Chwedlau neu Ddammegion Æsop, cyfres gyntaf (dim dyddiad), Glan Alun, chwedl 7.
- ↑ Dammegion Æsop, yr ail gyfres (dim dyddiad) Cyh. Hughes, Wrecsam, chwedl 56.
- ↑ Culhwch ac Olwen, cyfaddasiad newydd Gwyn Thomas (1988), tud. 44 – 45.
- ↑ Cassell’s Dictionary of Superstitions (1995), tud. 25