Defnyddiwr:Dan awyren/Corwynt Irene (2005)

Oddi ar Wicipedia

Roedd Corwynt Irene yn gorwynt Cabo Verde hirhoedlog yn ystod y tymor corwynt yr Iwerydd 2005. Ffurfiwyd y storm yn agos i Gabo Verde ar 4 Awst a chroesodd yr Iwerydd, gan droi tuag y Gogledd o gwmpas Bermuda cyn cael ei hamsugno gan seiclon alltrofannol wrth leoli i'r dde-ddwyrain o Newfoundland. Profwyd Irene i fod yn storm anodd i ragolygu oherwydd osgiliadau yn ei chryfder. Ar ôl bron diflannu ar 10 Awst, cyrhaeddodd Irene ei huchafbwynt fel corwynt Categori 2 ar 16 Awst. Wnaeth Irene dyfalbarhau am 14 dydd fel system drofannol, yr amser hiraf am barhad unrhyw storm yn y tymor 2005. Roedd hi'n y nawfed storm wedi'i henwi a'r phedwerydd corwynt o'r tymor torri record.

Er oedd ofnau cychwynnol o landfall yn yr Unol Daleithiau oherwydd ansicrwydd rhagdybio llwybr y storm, wnaeth Corwynt Irene byth dod yn agos i'r tir ac achosodd ddim difrod a gofnodwyd; er hyn, roedd ymchwyddau hyd at 8ft (2.4 m) a wnaeth cheryntau rip cryf achosi un farwolaeth yn Long Beach, Efrog Newydd.

Hanes meteorolegol[golygu | golygu cod]

Nodyn:Storm pathDechreuodd Corwynt Irene fel storm Cabo Verde. Symudodd don drofannol egnïol oddi wrth arfordir gorllewin Affrica ar 1 Awst, yn wreiddiol yn gwanhau oherwydd tymereddau arwyneb y môr oerach. Symudodd tuag y Gorllewin ac aeth heibio Cabo Verde, lle dechreuodd darfudiad cynyddu. Datblygodd y system wedyn i iselder trofannol ar brynhawn 4 Awst, 690 milltir (1100 km) i'r dde-orllewin yr Ynysoedd Cabo Verde. Yn gynnar ar 5 Awst, trodd yr iselder yn sydyn tuag y gogledd-orllewin mewn i ardal o wind shear uwch, gan achosi i rai modelau cyfrifiadurol rhagdybio bod yr iselder am ddiflannu, ac eraill ei bydd yn cryfhau. Ysgogwyd y bygwth sydyn i fodolaeth y storm i ragolygwr Lixion Avila o National Hurricane Center (NHC) rhoi'r sylw, "Cyn lleied rydym ni'n gwybod am enedigiaeth seiclonau trofannol."[2] Er yr amodau anffafriol yn ei chyffiniau a'i threfniad gwael, parhaodd Iselder Trofannol Naw i gryfhau, yn dod yn Storm Drofannol Irene ar 7 Awst.[1]