Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/Gwrthwynebiad i'r Natsïaid
- Grwpiau'r gwrthwynebiad heb gyfuno neu gydweithio
- dim hyd yn oed undeb o fewn yr eglwysi
- yn ôl adroddiadau'r Gestapo, roedd y sosialwyr yn newid tactegau (o wrthwynebiad ysgrifenedig i lafar), ac roedd y Comiwnyddion yn fwy o fygythiad na'r Sosialwyr
Yr adain chwith[golygu | golygu cod]
Y Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd (SPD)[golygu | golygu cod]
- 1 miliwn o aelodau, 5 miliwn o bleidleiswyr ar ddechrau 1933
- pleidleisio'n erbyn y Ddeddf Alluogi
- diddymu'r blaid gan y Natsïaid yn haf 1933
- arweinwyr y blaid yn ffoi i Lundain, Paris, a Phrâg
- ar ôl 1933: sefydlu system soffistigedig danddaearol
- y grŵp Siocfilwyr Cochion (Red Shock Troop - Alm.?): 3000 o aelodau erbyn diwedd 1933, myfyrwyr yn bennaf, cyhoeddi papur newydd. Erbyn diwedd 1933, arweinwyr y Siocfilwyr wed'u harestio gan y Gestapo a'u danfon i'r gwersylloedd crynhoi
- arweinwyr wnaeth ffoi yn anfon arian
- dosbarthu'r papur newydd sosialaidd (Socialist Action - Alm.?) o amgylch Berlin
- mwy o arweinwyr yn cael eu harestio gan y Gestapo
- adroddiadau SOPAD: ar ôl 1939, yr SPD yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am y farn gyhoeddus ynglŷn â'r Natsïaid
- sefydlu'r grŵp Dechreuad Newydd (New Beginning - Alm.?), yn dymuno cyfuno ideolegau'r comiwnyddion a'r sosialwyr. Erbyn 1935 cafodd y mwyafrif o'r arweinwyr eu harestio.
Y Blaid Gomiwnyddol (KPD)[golygu | golygu cod]
- Tân y Reichstaf → anghyfreithloni gweithgareddau'r Comiwnyddion, felly bu'n rhai iddynt ymgyrchu yn danddaearol.
- 1933-39: 150,000 mewn gwersylloedd crynhoi, 30,000 wedi'u lladd
- 1933-35: 36,000 o aelodau (10% ohonynt) yn weithredol yn y cudd-wrthwynebiad (underground resistance)
- dan oruchwyliaeth y Gestapo: targedu'r Comiwnyddion mwy nag unrhyw grŵp arall oherwydd y bygythiad o gomiwnyddiaeth fel grym rhyngwladol
- dosbarthu papurau a phamffledi gwrth-Natsïaidd mewn gweithleoedd a neuaddau cwrw
- Rote Fahne ("Y Faner Goch") oedd y prif bapur newydd
- llên y Comiwnyddion yn canolbwyntio ar weithredoedd treisgar y blaid (yr SA a'r SS) yn erbyn y dosbarth gweithiol
- 1.2 miliwn o bamffledi wedi'u cymryd gan y Gestapo yn 1934; 1.67 miliwn yn 1935
- anodd i weithredu'r rhwydwaith tanddaearol
- 1934: 14,000 wedi eu harestio gan y Gestapo
- 1938: 3800 yn cael eu harestio - yr ymgyrch yn lleihau
- 1941: trobwynt Ymgyrch Barbarossa - gwrthwynebiad yn atgyfodi
- ymgyrch yn cynyddu: 62 o bamffledi'n cael eu cymryd gan y Gestapo yn Ionawr 1941 i 10,227 yn Hydref 1941
- nifer o fudiadau yn dod i'r amlwg - Grŵp Uhrig, Ffrynt Gartref, Cerddorfa Goch, Grŵp Baum - ond heb gyswllt i'r KPD
- rhai'n credu dylai'r comiwnyddion a'r sosialwyr wedi uno neu gyd-gysylltu i ddod yn fwy pwerus
- Sopade
- trefniadaeth alltud o'r KPD - rheoli o Brâg, 33-38; Paris, 38-45
- creu adroddiadau ar faterion y Natsïaid, e.e. ar ôl Noson y Cyllyll Hirion
- cydnabod bod gan Hitler gefnogaeth y mwyafrif, ond dal yn pwysleisio'r gwrthwynebiad
- dim arweiniad
- cydnabod bod y gwrthwynebiad yn ansicr - dim llawer o gynlluniau hirdymor
- dweud mae'r Natsïaid mor gryf oherwydd mae'r gwrthwynebiad mor wan
Yr adain dde a'r lluoedd arfog[golygu | golygu cod]
Grŵp Beck-Goerdeler[golygu | golygu cod]
- Goerdeler
- wedi cydweithio â'r Natsïaid nes 1935
- anghytuno â'r syniad o genedl bur: ymladd yn y Reichstag dros hawliau'r Iddewon
- rhan o grŵp bach o lywodraethwyr oedd yn gwrthwynebu polisïau Hitler
- teithio i Ffrainc, UDA, y DU, a Chanada ac yn rhybuddio pobl yn erbyn polisi economaidd (peryglus, yn ei farn ef) yr Almaen Natsïaidd
- Beck
- cadfridog a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf
- dim yn hoff i Hitler - Hitler yn gwneud i'r fyddin ufuddhau i'r Natsïaid ac yn cynllunio rhyfel o goncwest
- ymddiswyddo yn 1938 - dim dylanwad rhagor mewn materion milwrol yr Almaen, colli ei statws a mynediad i wybodaeth
- Beck yn ynysig - cwrdd â Goerdeler a von Hassell, dechrau cynlluniau i ladd Hitler gyda bom
- y grŵp yma oedd tu ôl i'r Cynllwyn Bom
- roedd potensial gan y rhein i wneud rhywbeth mawr
Cylch Kreisau[golygu | golygu cod]
- y Cownt Helmuth von Moltke yn arweinydd - dechrau yn 1943
- credu bod Hitler yn dinistrio'r genedl mewn ymgais i dra-arglwyddiaeth fyd-eang
- creu cynllun er mwyn gwella trefn gymdeithasol am bobl yr Almaen yn seiliedig ar egwyddor Gristnogol
- dymuniad am ryddid yn eu huno
- 20 Gorffennaf 1944: cynllwyn i ddymchwel Hitler
- Gestapo'n eu harchwilio ac yn lladd yr arweinwyr
Abwehr[golygu | golygu cod]
- sefydliad gwybodaeth milwrol yr Almaen o 1866 i 1944
- rhan o'r Swyddfa Dramor
- gwrth-ysbïaeth, ysbïaeth, a difethwyr bwriadol (saboteurs): tair adran yr Abwehr
- dan arweiniad Wilhelm Canaris gyda Hans Oster
- gweithio'n erbyn peiriant braw yr SS
- trosglwyddo gwybodaeth i'r Cynghreiriaid trwy Beck-Goerdeler
- Oster yn un o'r rhai cyntaf i gael eu harestio yn 1944
- arestio Canaris fel rhan o'r Cynllwyn Bom
Y Cynllwyn Bom[golygu | golygu cod]
- 20 Gorffennaf 1944
- trio lladd Hitler a dod â'r Ail Ryfel Byd i ben
- nid yr ymgais gyntaf i ladd Hitler, ond yr un a ddaeth yn agosaf at lwyddiant
- 9 aelod allweddol tu ôl i'r Cynllwyn
- aelodau milwrol yn credu bod Hitler yn achosi'r Almaen i golli'r rhyfel
- cynllwynio'n ofalus - ymdrech y gwrthsafiad nid jyst gwrthwynebiad
- Claus von Stauffenberg
- cuddio bom mewn bag dan fwrdd
- methiant - swyddog wedi symud y bag i ben arall y bwrdd
- Canlyniadau:
- cannoedd o swyddogion yn cael eu diarddel o'r NSDAP - y blaid wedi colli wyneb yn dilyn y Cynllwyn ac eisiau dial
- arweinwyr y Cynllwyn i gyd yn cael eu dienyddio neu'n cymryd bywydau eu hunain
- dienyddiadau'n cael eu recordio i wneud esiampl
- hongian ar wifren piano o fachau cig
- bron 5000 o Almaenwyr yn cael eu lladd am ddial
- diwedd y gwrthwynebiad
Eglwysi[golygu | golygu cod]
Yr Eglwys Brotestannaidd[golygu | golygu cod]
- Natsïaid yn caniatáu dim on Aryaid i ymuno â'r Eglwys
- cynnid cred wahanol o Natsïaid: ffurfio'r Eglwys Gyffes dan arweiniad Martin Niemoller
- Eglwys Genedlaethol y Reich (Müller yn arweinydd): Natsïeiddio'r Eglwys
- Niemoller yn pregethu yn erbyn y Natsïaid - nid yn danddaearol, ond yn agored
- Eglwys y Reich yn dymuno puro Cristnogaeth o unrhyw syniadau Iddewig o'r Hen Destament
- 800 o weinidogion wedi'u carcharu gan y Natsïaid
- yr Eglwys ddi-Natsïaidd wedi goroesi erbyn diwedd y rhyfel: y ffydd yn gryfach na'r wladwriaeth
Yr Eglwys Gatholig[golygu | golygu cod]
- Catholigiaeth Rufeinig yn rym rhyngwladol - pŵer allanol y Pab
- yr Eglwys Gatholig yn cydweithio gyda'r Natsïaid ar y dechrau
- Concordat (Gorffennaf 1933): Pab yn cytuno i Gatholigion cadw allan o system wleidyddol yr Almaen ar yr amod bod y Natsïaid yn cydnabod safle gymdeithasol yr Eglwys Gatholig (ysgolion Catholig, mudiadau ieuenctid Catholig, ayyb)
- torri'r Concordat gan Hitler - cau'r ysgolion Catholig
- gwrthwynebwyr ar lefel offeiriaid lleol - dim fawr o ymateb gan y Pab
- gwrthwynebu rhaglen ewthanasia'r Natsïaid
- Mit brennender Sorge (with burning concern) - Pab yn cyflwyno yn erbyn Natsïaeth yn 1937
- y Cardinal von Galen yn arwain y gwrthwynebiad yn erbyn ewthanasia
- protestiadau yn erbyn gwrth-Semitiaeth yn 1941
- ymdrechion unigolion
- crefydd yn goroesi'r Natsïaid unwaith eto
Mudiadau llafur[golygu | golygu cod]
- absenoldeb o waith
- difrodi peiriannau ar bwrpas
- gweithio'n araf ac aneffeithlon ar bwrpas
- gwrthod ymuno â'r fyddin neu wneud arfau
- mynd ar streic yn 1935: prisiau bwyd yn cynyddu
- streicwyr a gweithwyr aneffeithlon ar bwrpas yn cael eu harestio a'u danfon i'r gwersylloedd crynhoi
- Georg Elser: gosod bom yn Neuadd Cwrw München yn Nhachwedd 1939 i ladd Hitler (Hitler heb droi lan)
- grwpiau o weithwyr yn weithredol yn erbyn y Natsïaid
- dim arweinydd, dim trefn: gwrthwynebiad llafur yn methu
Cymdeithasau sifil[golygu | golygu cod]
Môr-ladron Edelweiss[golygu | golygu cod]
- gwrthod cymryd rhan mewn gweithgareddau Ieuenctid Hitler
- ymladd Ieuenctid Hitler ar strydoedd Dusseldorf, Essen, a Chwlen
- mwyafrif yng Ngorllewin yr Almaen ac o'r dosbarth gweithiol
- troseddu (e.e. fandaleiddio) fel ffordd o wrthod cydymffurfio
- y nifer fwyaf rhwng 16 a 18, rhai yn ferched
- grwpiau o tua 10 i 15 person
- dim agenda wleidyddol ganddynt - gwrthwynebu ar lefel fach
- dod yn ddewrach: graffiti gwrth-Natsïaidd, dwyn arfau a bomiau o orsafoedd milwrol, lladd pennaeth Gestapo Cwlen
- Natsïaid yn ymateb: rhybuddio, arestio, danfon yn ôl i'r ysgol, rhoi ar brawf, danfon i wersylloedd crynhoi
- Cwlen: taflu briciau trwy ffenestri ffatrïoedd a rhoi dŵr siwgr mewn tanciau petrol y Natsïaid
- 1944: rhai'n cael eu harestio gan y Gestapo a'u harteithio
- 10 Tachwedd 1944: Gestapo'n crogi 13 ohonynt yn gyhoeddus
Y Rhosyn Gwyn[golygu | golygu cod]
- myfyrwyr o Brifysgol München a'u hathro athroniaeth (Kurt Huber)
- danfon taflenni anhysbys yn galw am wrthwynebiad i gyfundrefn Hitler
- Mehefin 1942 i Chwefror 1943: cyfnod bach iawn
- dim agenda wleidyddol - yn dymuno rhyddid a thegwch i bawb
- chwe phamffled - dyfynnu o'r Beibl, Aristoteles, Novalis; targedu Bafaria ac Awstria
- prif aelodau: Sophie a Hans Scholl, Alex Schmorell, Willi Graff, Christoph Probst
- cael eu harestio gan y Gestapo (18 Chwefror 1943) am ddarparu taflenni ym Mhrifysgol München
- cael eu dienyddio
- llwyddodd y chweched pamffled i gael ei ddarparu gan awyrennau'r Cynghreiriaid ym Mehefin 1943
Mudiadau diwylliannol[golygu | golygu cod]
- mudiad cerddoriaeth swing a jazz yn gwrthwynebu'r Almaen, yr heddlu, y blaid a'i pholisïau, Ieuenctid Hitler, gwaith, y lluoedd milwrol, a'r rhyfel
- dim agenda wleidyddol
- eisiau dilyn y ffordd Brydeinig o fyw
- yn erbyn y syniad o genedl bur
- gwrando ar orsafoedd radio tramor
- lledaenu propaganda gwrth-Natsïaidd
- ffurfio gangiau strydoedd
- gwrthod gwrando ar gerddoriaeth y Natsïaid
- Ieuenctid Hitler yn ysbïo arnynt
- 300 wedi'u harestio a'u danfon yn ôl i'r ysgol dan arolwg
- gwrando ar Glenn Miller a Louis Armstrong
- rhai'n cael eu hanfon i'r gwersylloedd crynhoi
- smyglo recordiau jazz i mewn i'r wlad
Unigolion o nod[golygu | golygu cod]
Karl von Ossietzky[golygu | golygu cod]
- heddychwr democrataidd
- cael ei ddanfon i wersyll crynhoi
- ennill Gwobr Heddwch Nobel yn 1935 - y Natsïaid yn gwrthod rhoi pasbort iddo i deithio i dderbyn y wobr