Damon Hill

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Damon Hill
Damon Hill crop.jpg
Hill yn 2008
Cenedligrwydd  Y Deyrnas Unedig Prydain
Gyrfa Pencampwriaeth y Byd Fformiwla Un
Blynyddoedd yn cystadlu 1992 – 1999
Timau Brabham, Williams, Arrows, Jordan
Rasys 122 (115 dechreuad)
Pencampwriaethau 1
Buddugoliaethau 22
Podiwm 42
Pwyntiau 360
Dechrau o'r blaen 20
Lapiau cyflymaf 19
Ras gyntaf Grand Prix Prydain 1992
Ras olaf Grand Prix Siapan 1999

Cyn-yrrwr Fformiwla Un o Loegr yw Damon Graham Devereux Hill OBE (17 Medi, 1960 – ). Enillodd Hill Pencampwriaeth y Byd Fformiwla Un yn 1996 ac fe yw'r unig fab o Bencampwr i ennill y tlws. Fe fu farw ei thad pan oedd Hill yn 15 mlwydd oed, ac ni ddechreuodd cystadlu cyn oedd yn 23. Ar ôl ychydig lwyddiant yn y cyfresi is, fe symudodd ymlaen i'r gyfres Fformiwla 3000 yn 1989.

Fe ymynodd Hill gyda thîm Williams fel gyrrwr profi yn 1992, cyn cael ei dyrchafu i yrrwr llawn yn 1993, ar ôl i Nigel Mansell gadael y tîm. Fe gymerodd ei buddugoliaeth gyntaf yn Grand Prix Hwngari 1993. Yn ystod ganol yr 1990au, roedd Hill yn cystadlu yn erbyn Michael Schumacher am Bencampwriaeth y Byd. Enillodd Schumacher ei phencampwriaeth gyntaf yn 1994, ar ôl gwrthdrawiad dadleuol rhwng y ddau yn ras olaf y tymor. Fe enillodd Hill Pencampwriaeth y Byd yn 1996, ond fe wnaeth Williams ei rhyddhau ar ddiwedd y tymor. Fe symudodd i dîm Arrows ac wedyn Jordan, gan ennill buddugoliaeth gyntaf tîm Jordan yn 1998.

Fe wneath Hill ymddeol o rasio ar ddiwedd tymor 1999. Ers hynny, mae wedi sefydlu sawl busnes ei hunan, yn ogystal â gwneud sawl ymddangosiad gyda bandiau enwogrwydd. Yn 2006, cafodd ei ethol yn llywydd yr British Racing Drivers Club, yn dilyn Jackie Stewart.

Bywyd personol[golygu]

Ganwyd Hill yn Hampstead, Llundain ar 17 Medi 1960 yn fab i Graham a Bette Hill. Gyrrwr Fformiwla Un oedd Graham Hill; enillodd fe pencampwriaeth y byd yn 1962 and 1968. Fe ddaeth gyrfa Graham Hill a bywyd cyffyrddus ac erbyn 1975 roedd y teulu yn byw mewn plasty yn Swydd Hertford, gyda Damon yn mynychu ysgol breifat Haberdashers' Aske's.[1] Fe fu farw Graham Hill yn ddamwain awyren yn 1975, gan adael gweddill y teulu yn amgylchiadau gostyngol.[2] Fe fe Damon Hill yn gweithio fel labrwr ac rhedwas er mwyn cynnal ei addysg bellach.[3]

Fe briododd Hill i Georgie (geni 29 Ebrill 1961) ac mae ganddynt bedwar plentyn: Oliver (geni 4 Mawrth 1989), Joshua (geni 9 Ionawr 1991), Tabitha (geni 19 Gorfennaf 1995) a Rosie (geni 1 Chwefror 1998). Cafodd Oliver ei eni gyda syndrom Down ac mae Hill a Georgie yn noddwyr Cymdeithas Syndrom Down.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  HILL, Damon Graham Devereux. Oxford University Press (December 2007).
  2. Henry, Alan (1994). Damon Hill. Cambridge: Patrick Stephens Ltd.. tud. 10–12 & 16–17. ISBN 1852604840. 
  3. Nodyn:Cite video
  4. Down's Syndrome Association Annual Report 2006-2007 (PDF). URL