Dalen (pentref)
Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd: Dalen.
Melin wynt Jan Pol.
Pentref hynafol a chyn-bwrdeistref yn nhalaith Drenthe yng ngogledd-ddwyrain yr Iseldiroedd yw Dalen. Mae wedi bod yn ran o fwrdeistref Coevorden ers 1998. Roedd 3,470 o drigolion yn y pentref ar 1 Ionawr 2004.
Mae nifer o siopau, pobyddion a bwytai yn y pentref yn ogystal a'r tafarn D'aolle Bakkerij. Mae'n gyrchfan teuluol o fewn pellter seiclo o 'De Huttenheugte'. Mae gorsaf reilffordd Dalen yn cysylltu â Emmen a Coevorden/Zwolle.
Mae Dalen yn adnabyddus am ei sawl melin wynt, gan gynnwys Melin wynt De Bente.
Trigolion o nôd [golygu]
- Karsten Kroon, seiclwr, ganwyd yn Dalen
- Gerald Sibon, chwaraewr pêl-droed, ganwyd yn Dalen
- Albert Bouwers, optegydd, ganwyd yn Dalen ym 1893.[1]
