Dŵr mwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Defnyddir y term dŵr mwyn ar lafar yn aml gan olygu dŵr carbonedig (sydd fel arfer yn ddŵr mwyn carbonedig, yn hytrach na dŵr tap).

Dŵr sy'n cynnwys mwyn a sylweddau eraill wedi eu hydoddi yw dŵr mwyn, dyma rhoddir iddo ei flas neu ei werth therapiwtig. Gall y dŵr gynnyws halen, cyfansoddion sylffwr, a nwyon ymysg nifer o gyfansoddion eraill. Gall dŵr mwyn yn aml fod yn eferw, gall ddigwydd yn naturiol neu ei greu.

Yn draddodiadol, yfwyd dŵr mwyn wrth y darddell, cyfeirwyd at rhain yn aml fel sba, baddon neu ffynnon. Defnyddwyd y gari sba pan ddefnyddwyd y dŵr i ymolchi ynddo a'i yfed, a baddon pan na yfwyd y dŵr yn gyffredinol, a ffynnon pan na ymolchwyd yn y dŵr yn gyffredinol. Tyfodd canolfan twristiaeth oamgylch y tarddiad yn aml, megis Caerfaddon.

Yn ddiweddar, mae'n gyffredin i nifer o darddellau gael eu defnyddio er mwyn potelu dŵr mwyn wrth y darddell a'i dosbarthu. Mae'n anghyfredin i bobl deithio i'r darddell er mwyn yfed dŵr mwyn heddiw, ac yn aml mae'n amhosibl gan fod y ffynhonnell weid ei lleoli ar dir preifat. Mae drost tri mil o frandiau dŵr mwyn ar gael yn fasnachol yn fyd eang.[1]

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Water from all over the World