Cyflymder terfynol

Oddi ar Wicipedia
Mae grym disgyrchiant i lawr (Fg) ar y bêl goch yn hafal i rym ataliol llusgiad (Fd) ynghyd â'r hynofedd. Gan fod y grymoedd hyn yn canslo ei gilydd, mae cyflymder y bêl yn aros yn gyson.

Y cyflymder uchaf y gall gwrthrych ei gyrraedd wrth iddo ddisgyn trwy hylif (yr atmosffer fel arfer) yw cyflymder terfynol. Cyrhaeddir y cyflymder hwn pan fo grymoedd gwrthiant ar y gwrthrych yn hafal i'r grym cyflymu (disgyrchiant fel arfer). Gan fod swm y grymoedd ar y gwrthrych yn sero, mae gan y gwrthrych gyflymiad sy'n hafal i sero.

Awyrblymiwr yn cyrraedd cyflymder terfynol

Er enghraifft, mae cyflymder terfynol tua 195 km/h (120 m.y.a.) gan awyrblymiwr sy'n cwympo gyda'i freichiau a'i goesau ar led. Os yw'r awyrblymiwr yn lleihau'r llusgiad gan dynnu ei freichiau a'i goesau yn ei ôl, mae'r cyflymder terfynol yn cynyddu i tua 320 km/h (200 m.y.a.); dyma bron i gyflymder terfynol yr hebog tramor yn plymio i lawr ar ei ysglyfaeth.